pan siaradant am grefydd a chrefyddwyr. Yr oedd ei ddoethineb yn uchel iawn yn ngolwg yr eglwys dan ei ofal; ei farn ef yn gyffredin oedd i fod yn derfyn ar bob dadl. Nid ydym wrth ddyweyd hyn, am daflu yr awgrym lleiaf ei fod yn tra awdurdodi ar etifeddiaeth Duw; na, deallai reolau y Testament Newydd yn well na hyny, ond yr oedd gan y bobl gymaint o olwg ar ei dduwioldeb a'i gallineb, fel y trosglwyddent yr hawl yn ddieithriad braidd i'w ddwylaw ef. Eisteddai ef yn y gadair isaf yn wastad, ond gorfodai y bobl ef i eistedd yn uwch, ac felly yr oedd iddo glod gerbron yr holl eglwys.
Gweithiodd yn galed am ychydig iawn o dâl. Yr oedd hyn o angenrheidrwydd yn y rhan gyntaf o'i weinidogaeth, o herwydd nad oedd yr eglwys ond bechan; ond ni fu ei fwrdd ef yn fras iawn wedi i'r eglwys gynyddu. Yr ydym wedi bod yn chwilio yn fanwl am yr achos o hyn, a dymunwn fod yn onest iawn wrth grybwyll am y ffaith. Mae yn eglur iawn mai golwg isel oedd gan Mr Harries arno ei hun, ac o ganlyniad nid oedd yn ystyried fod ei waith yn gofyn am dâl priodol; ac o herwydd hyn, ni byddai yn cymhell y bobl i fod yn haelionus tuag at y weinidogaeth gartrefol. Mae yn wir ei bod drueni mawr fod yn rhaid i weinidog son gair am arian; ond eto, lle na byddo'r egwyddor wirfoddol wedi ei deall, rhaid i'r gweinidog wneud, os na wna neb arall. Yn ol dim ag wyf wedi ddeall, byddai Mr. Harries yn gwrthwynebu pob symudiad er ychwanegu ei gyflog. Nis gwyddom pa beth oedd ei amcan yn hyn; dichon ei fod yn rhagweled y buasai symudiad o'r fath yn debyg o greu oerfelgarwch yn meddyliau rhyw rai, ac fod yn well ganddo adael pob peth fel yr oedd na hyny. Mae yn ddiau fod yn rhaid cael penderfyniad meddwl go gryf mewn gweinidog sefydlog i ddysgu y ddyledswydd bwysig hon i'r gynulleidfa, yn enwedig lle mae pregethu rhad yn boblogaidd iawn gan lawer. Nis gallwn gydymdeimlo yn iawn â Mr. Harries yn y peth hwn, gan na chawsom y drafferth ein hunain erioed. Mae peth arall yn amlwg iawn yn y cysylltiad hwn, sef fod cyfeillion y Morfa yn dra haelionus at amrywiol achosion a ddygwyddent ddyfod dan eu sylw; megis, y Colegau