yn fawr o herwydd ei fod yn alluog i ddyweyd brawddegau hirion, nes y gellid gwneud rhaff llong o honyntnis gallai wneud hyn; ond os yw pregethu Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio, i dorf o bobl, nes peri iddynt deimlo, yn gwneud pregethwr, yr oedd Mr. Harries felly; os yw bod yn ddefnyddiol ar hyd oes hir i droi pechaduriaid cyndyn at Waredwr, yn gwneud pregethwr mawr, gwnaeth ef hyny; ac os yw enill cymeradwyaeth gyffredinol yn y manau yr adwaenir dyn oreu, yn gwneud pregethwr mawr, yr oedd ef yn wir fawr. Buasai yn dda genym allu cael gafael mewn rhai o'i bregethau, fel y meddyliodd ac y dywedodd ef hwynt; ond nid oes dim o honynt ar gael; o herwydd ni ysgrifenodd ef linell o'i bregethau erioed. Nid oedd angen neillduol am hyny pan oedd yn ei nerth, o herwydd yr oedd ei gof rhyfeddol yn cario'r cwbl. Cofiai unwaith wyth ugain o bregethau; yr oeddent at ei law fel saethau mewn cawell, a gallasai afael yn yr un a fynai. Cofiai y pedair Efengyl bob gair unwaith, ac âi drostynt yn ei wely'r nos, pan fuasai pawb ereill yn cysgu yn dawel. Treuliodd ddegau o nosweithiau fel hyn heb gysgu dim; ond buasai yn dda iddo ef erbyn ei hen ddyddiau, yn gystal ag i ereill, pe buasai wedi ysgrifenu ei bregethau.
Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn y Beibl, a medrai gymhwyso amgylchiadau ac adnodau er grymusu ei bwnc, yn hynod fedrus. Yr oedd mor gyfarwydd yn ei Feibl, fel yr oedd yn gallu darllen Cymraeg pur mewn Beibl Saesneg, yr hwn a ddygwyddai weithiau fod ar y pulpud; ac nid yn unig darllenai ryw sut, ond cadwai yr attalnodau a'r pwyslais yn rhagorol dda; ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â'r Beibl yn gymhorth mawr iddo ar hyd ei oes.
Pregethodd lawer yn y blynyddoedd diweddaf ar y testun hwnw, "Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr—lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor, eithr yr ûs a lysg efe â thân anniffoddadwy."
I. Yr eglwys dan y gymhariaeth o lawr-dyrnu.
II. Y gwaith mae Crist yn wneud ar ei eglwys—ei "llwyr-lanhau."
III. Yr hyn y cyffelybir y saint a'r rhagrithwyr iddynt "gwenith ac ûs."