meddwl a chalon yr ysgrifenydd. Cofio yr ydwyf er yn ieuanc iawn weled y gwr duwiol uchod yn dyfod i bregethu ar foreu Sabboth i Bethel, Mynyddislwyn, gan fyned y prydnawn i Toniddon, i dŷ Mr. P. Williams, i bregethu eilwaith ar ei ffordd wrth ddychwelyd adref; gan ddyfod a dychwelyd yr un dydd, a theithio drwy hyny tua deg ar hugain o filltiroedd.
Byddai Mr. Harries yn cael ei ystyried y pryd hwnw yn ddyn hynod mewn duwioldeb, ac hefyd mewn ffyddlondeb yn mhob peth gydag achos Duw. Bu cyfnithder i'r ysgrif enydd yn aros yn nghymydogaeth y Morfa am ryw dymhor, pan yn ferch ieuanc (sef Rachel Mathews, gwraig wedi hyny i'r brawd R. Morris, Ffynonygwaed,) yr hon sydd wedi marw, a phawo ar a'i hadwaenai yn lled sicr am ei duwioldeb hithau. Clywais hi yn dywedyd ei bod yn arfer myned i'r cyfeillachau a'r cyfarfodydd gweddi at Mr. Harries, a thystiai hi na fu erioed yn well wrth ei bodd na phan yn ei gyfeillach ef a'i bobl. Teimlai pawb ag oedd yn adnabod y gwr da ryw barch mawr ato, ar gyfrif ei dduwioldeb, pa un bynag ai gartref ai oddicartref. Cafodd amryw wŷr a gwragedd parchus fagwriaeth grefyddol fendithiol iawn dan weinidogaeth Mr. Harries, rhai o'r cyfryw a adwaenai yr ysgrifenydd yn dda, fel rhai yn dwyn mawr sêl dros eu gweinidog parchus. Cof genyf am Mrs. James y cyntaf, a Mrs. James yr ail, yr hon sydd yn byw yn awr yn y Casnewydd; Mrs. Williams hefyd, priod y Parch. D. Williams, gynt o Aberafon, yr hon oedd yn ddynes rinweddol a duwiol iawn. Mae hithau wedi marw er ys blynyddoedd. Cafodd hi ymgeledd mawr yn y Morfa pan yn ieuanc iawn. Mrs. Hughes, Dowlais, oedd un arall a hoffai ei gweinidog Mr. Harries yn fawr iawn; ac mae yn awr yn cofio am lawer cyfarfod gwerthfawr a gafwyd yn y Morfa, pan yn ddynes ieuanc, yn byw gydag offeiriad yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn ewythr iddi. Diau mai tragwyddoldeb yn unig a esbonia y daioni a gafwyd yn y Morfa drwy weddiau taerion, pregethau gwresog, anerchiadau siriol, a chyfeillachau nefol y diweddar Mr. Harries.
Yn mhen blynyddoedd wedi dyfod i adnabyddiaeth bersonol ag ef, cafodd yr ysgrifenydd ei symud gan ragluniaeth i dref Casnewydd. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1841.