Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/3

Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

Dymunaf hysbysu y darllenydd fy mod wedi awgrymu i'r hen dad, Mr. Harries, lawer gwaith, y buaswn yn ysgrifenu Cofiant iddo, os na fuasai neb arall yn gwneyd. Dywedai wrthyf bob amser nad oedd dim yn werth i'w ddweyd am dano; ond nid felly yr wyf fi ac ereill yn gweled. Diau ei bod yn ddyledswydd arnom gadw mewn cof y rhai hyny ag fu yn llafurio yn galed ar hyd eu hoes yn ngwinllan Iesu; ac yn sicr y mae yn iawn i mi gofio am yr hynod Mr. Harries, o herwydd ei fod wedi bod yn llafurio cymaint yn y lle ag yr wyf yn aros ynddo. Ni welodd y lle hwn neb yn fwy selog a pharod nag efe, o blaid yr achos yn ei holl dywydd.

Cryn orchwyl yw ysgrifenu hanes bywyd dyn na ysgrifenodd ddim ei hunan o'i feddyliau a'i ddywediadau. Y mae yr hyn a gedwir ar gof yn agored i gael ei gamddyweyd; a phe byddai y cof yn gywir, nis gellir trosglwyddo ei ddull ef ei hun gyda'i bethau, ac o herwydd hyny collant lawer