newidiaf i â chwi ryw Sabboth, os leiciwch." Ffromodd yr offeiriad yn aruthrol, ac a ddywedodd, "Isaac, mi ro i notice i chwi;" a notice a gafodd i ymadael â'r fferm. Aeth y son allan drwy y gymydogaeth yn fuan, a dechreuodd y bobl erlid yr offeiriad, gan fygwth gadael yr eglwys i'r offeiriad, os anfonai Mr. Harries ymaith; ac mewn canlyniad cafodd y notice ei dynu yn ol, a chafodd yntau aros yn ei fferm. Fel Cristion, yr oedd yn neillduol o hawddgar a didramgwydd. Yr oedd o feddwl rhydd a dirodres-yn hawdd ei adnabod, yn ddilen a diragrith. Hynawsedd ac addfwynder Crist oedd yn ei nodweddu, a gellir yn briodol ddyweyd am dano, mewn symlrwydd a phurdeb duwiol-nid mewn dichell na doethineb cnawdol, yr ymddygodd efe yn y byd trwy ras Duw. Yr oedd yn esiampl i'r ffyddloniaid mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn ffydd, ac mewn cariad.
2. Mi ddymunwn ei goffa fel gweddiwr. Yr oedd yn rhagori yn hyn ar y rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd yn nerthol ac yn arswyd i gnawd rai prydiau. Y mae Cymanfaoedd Mynwy a Morganwg yn dystion o hyn. Yr wyf yn cofio ei fod yn gweddio yn y New Inn ar gyfarfod gweinidogion, ac yr oedd yn arddeledig, ac mor effeithiol, nes yr oedd yr holl dorf yn foddfa o ddagrau. Ar ganol ei weddi, yr oedd yn diolch gyda rhyw awdurdod rhyfedd, am grefydd yn talu ei ffordd bob tymhor o'r flwyddyn. "Ydyw," meddai, "mae'n talu ei ffordd drwy holl fis dû cyn Nadolig;" ac fe gynhyrfodd ereill cyn diwedd ei weddi i ddiolch mor uchel ag yntau am grefydd yn talu ei ffordd. Mi glywais am dano mewn cyfarfod gweddi, ger Maesllech, rhwng Caerlleon a Brynbiga; yr oedd wedi dyfod i'r gymydogaeth hòno i doi y teisi gwenith; ac un noson, yr oedd cwrdd gweddi yn ymyl, ac aeth yntau iddo; galwyd arno i weddio ar ddiwedd y cwrdd, plygodd wrth ystol deir-troed; ac ar weddi anghofiodd ei hun, a rowndiodd ar ei liniau yr holl room ddwy waith, a'r bobl yn cilio rhagddo, iddo gael ei ffordd. Mawr y son fu am y cyfarfod gweddi hwnw drwy'r holl ardal, ac mae rhai yn cofio am dano hyd heddyw.
3. Dymunwn ei goffa hefyd fel gwrandawr. Un bywiog iawn ydoedd-nid oedd efe, fel mae llawer, yn twymno wrth dân neb ond ei dân ei hunan, ac nid oes fawr gwres yn hwnw chwaith. Os buasai dim goleu yn llewyrchu, yr oedd