chlywais i fod neb erioed wedi amheu ei dduwioldeb. Ychydig oedd ei fanteision fel pregethwr; byddai yn gorfod gweithio yn galed bob dydd er cynal ei hun a'i deulu, er cael llawer o garedigrwydd gan ychydig ffryndiau gartref ac oddicartref; byddai weithiau ganddo filltiroedd i ddyfod oddiwrth ei waith i'r oedfa, ond byddai bob amser yn ymdrechu bod yn mhob cyfarfod wythnosol; a rhyfeddais lawer gwaith ei weled mor fywiog a chynhes yn y cyfarfodydd ar ol ei ludded caled drwy y dydd; hyfrydwch ei galon ef oedd gwaith ei Dduw. Defnyddiodd yr Arglwydd ef i raddau helaeth er enill eneidau at y Gwaredwr, yn ei ardal ei hun a lleoedd ereill. Byddai bob amser yn dderbyniol iawn gan eglwysi ereill yn nghyd a'u gweinidogion; ac nid ga gan neb yn fwy felly na'r enwog Mr. Hughes, Groeswen, yr hwn a'i dewisodd ef i bregethu yn ei angladd, gan nodi y testun hwnw iddo bregethu arno, "Gwir yw y gair." Parhaodd yn ffyddlon ac iraidd hyd y diwedd. Aethum i'w weled ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan y dywedais wrtho, “Fod yn ddrwg iawn genyf weled yr hen dŷ yn dyfod lawr;' ac nis gallaf anghofio'r bywiogrwydd a'i meddianodd pan dorodd allan, gan ddywedyd, "Beth waeth am hyny;" yna cododd ei freichiau gwywedig i fyny, a dyrchafodd ei lais, gan ddywedyd yr ail waith, "Beth gwaeth am hyny, gan fod genyf dŷ tragywyddol yn y nefoedd." Yr oedd efe o ran ei leferydd yn llawn o dân y nefoedd yn ymadael â'r ddaear. Gellir dyweyd am dano, "Efe a ymdrechodd ymdrech deg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd," a'i fod yn awr yn mwynhau coron cyfiawnder.
Yr eiddoch, &c
MARY HUGHES.
At y Parch. T. L. Jones, Machen.
ANWYL FRAWD,—Da genyf gael ar ddeall eich bod yn bwriadu gwneud bywgraffiad i'r Parch. I. M. Harries o'r Morfa. Dylai enw a choffadwriaeth y dyn teilwng hwn fod yn werthfawr gan ei gydwladwyr yn gyffredinol. Cefais lawer o gynghorion gwerthfawr ganddo. Un tro yn agos i Wenfoe, dywedodd wrthyf, " Mai yr unig beth a'i cododd ef i sylw, oedd byw bywyd duwiol." "Gofalwch," meddai,