COFIANT, &c.
Y MAE pedwar ugain mlynedd yn effeithio cyfnewidiadau mawrion, yn wladol a chrefyddol. Mae y ffaith yma yn amlwg iawn, wrth i ni droi ein golwg yn ol i edrych ar fro Mynwy, tua'r flwyddyn 1782. Yn yr adeg hon, nid oedd yr un eglwys Annibynol yn y fro, oddieithr yr un yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac efallai ychydig frodyr yn ymgyfarfod yn Machen i addoli eu Duw, yn ol y drefn Annibynol. Mae yn wir fod eglwys Annibynol wedi bod am rai blynyddau yn nhŷ Jane Rowlands, yn Marshfield, ond yr oedd hono yn awr wedi gwywo a marw, a dim ond ychydig yn gwybod fod y fath beth wedi bodoli erioed."
Golygfa resynus iawn oedd i'w chanfod ar foesoldeb y wlad hon y pryd hwnw. Y rhan fwyaf o arweinyddion y bobl yn ddeillion, a'r ddau yn syrthio yn yr un ffôs ddofn o lygredigaeth-llèn gaddugawl yn gorchuddio meddyliau y bobloedd-dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi-y bêl-droed yn cael ei chicio, a nerth corphorol amryw o'r bechgyn ieuainc yn cael ei brofi ar ddiwedd y chwareu, drwy ymladd â'u gilydd, nes byddai eu gwaed yn llifo i'r llawr-talcen yr eglwys yn cael ei ddefnyddio i guro'r bêl yn ei erbyn, a'r offeiriad mewn nwyfiant a hwyl yn eistedd ar y gareg farch gerllaw, i gadw cyfrif pwy oedd ar y blaen-y Beibl yn llyfr seliedig i'r lluaws-angeu'r groes, a'r Iawn a roed yno, yn bethau dyeithr, a'r bobl yn rhedeg i golledigaeth dragywyddol, heb ond ychydig i'w rhwystro. Ond, yn yr amseroedd tywyll hyn, yr oedd rhywrai yn mro Mynwy ag ofn Duw o flaen eu llygaid, a'u calonau yn teimlo wrth weled trueni trigolion y wlad. Yr oedd eglwys go gref yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac amryw ar hyd y wlad yma ac acw yn aelodau o honi, ac yn eu plith yr oedd Thomas Morgan Harry, o Dwyn-