cadnaw, (Twyncanddo, godreu Mynwy,) gerllaw'r 'pump heol,' yn mhlwyf Bassaleg, neu yn hytrach Maesyrhelyg, a'i briod. Mae Twyncadnaw yn aros hyd heddyw, ac wrth edrych ar ei furiau llathen o lêd, y beam derw dwy droedfedd betryal, ag sydd a'i ysgwydd gadarn dan y lloft, a'r tylathau brâff ag sydd yn dal y tô, y gall aros yn ddigwymp am un oes eto beth bynag Cafodd gwr a gwraig Twyncadnaw y fraint o ymuno â chrefydd yr addfwyn Iesu, yn y flwyddyn 1760. Nis gwyddom pa fodd yr argyhoeddwyd hwynt; ond nid yw fawr gwahaniaeth, gan fod digon o brofion eu bod wedi cael troedigaeth gyflawn a thrwyadl. Ymddengys fod y ddau ddyn hyn yn esiampl i'w cymydogion ac yn anrhydedd i grefydd yr Oen. Felly, rhesymol dysgwyl iddynt orphen eu gyrfa mewn llawenydd, a'u llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw. Gweinidog Heol-y-felin y pryd yma, oedd y Parch Rosser Prosser; bu farw yn fuan wedi hyn.
Cafodd Thomas Morgan Harry ei fendithio â theulu lluosog, yr ieuengaf o ba rai oedd gwrthrych ein Cofiant. Cafodd Isaac Morgan Harry ei eni i fyd gofidus a thrafferthus, ac nid hir y bu heb gael teimlo y groes ar ei ysgwydd dyner. Bu farw ei fam cyn iddo ef gyrhaedd ei ddwy flwydd oed, yr hyn fu yn golled ddirfawr iddo ef a'r plant ereill, ond gallodd y lleill ymdaro yn well nag ef, o herwydd eu bod yn henach, a chaletach i ddal y tywydd garw oedd yn eu haros yn myd yr anial. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol y tro chwerw hwn, meddyliodd ei dad y byddai yn well iddo gael ymgeledd gymhwys iddo yr ail waith, a thybiai yn ddiau ei fod yn gwneyd lles mawr i'r rhai bychain oedd ganddo wrth wneyd hyny; ond buan y cafodd ef a hwythau deimlo nad oes modd cael ychwaneg nag un fam. Ymddengys i Isaac bach gael teimlo pwys dyrnodiau y ddynes hon lawer gwaith, a mynych yr wylai ei dad yn chwerw dost am fod y fath anffawd wedi dygwydd iddo; ond yr oedd erbyn hyn yn rhy ddiweddar i gael unrhyw gyfnewidiad, oblegid hyd angeu yr oedd priodas y pryd hwnw fel yn awr. Mae llawer iawn o blant Duw wedi myned i'r fagl hon yn eu hen ddyddiau, a phrydnawn digon ystormus a gofidus a ddaeth i'w rhan yn herwydd hyn. Mae llawer