am "dywalltiad o'r Ysbryd Glan i achub y bobl." Cymerwyd awgrym yr olaf i fyny, cynhaliwyd y cyfarfod y nos Lun canlynol. Cafwyd cyfarfod hyfryd, fel y penderfynwyd cael un o'r fath drachefn. Ac felly yn methu rhoddi fyny nes cael yr hyn y gofynid am dano. Nid oedd neb ond yr aelodau crefyddol yn y cyfarfodydd hyn. Treulid y rhan fwyaf o'r amser mewn mawl a gweddi, a rhyw 20 mynyd i gydymddiddan ar fater y cyfarfod; a byddai llawer oedd yn fudan yn y cyfarfodydd gynt, yn llefaru pethau rhyfedd yn y rhai hyn. Yn misoedd y gauaf canlynol, dechreuodd dychweledigion ddylifo i'r eglwys, nes bod yn 50 neu 60. Wedi yr ychwanegiad, nid oedd yn bosibl rhoddi y cyfarfod nos Lun i fyny, gan ei fod yn fanteisiol iawn yn awr i gael y dychweledigion i ymarfer â'r dyledswyddau. Cynhaliwyd ef ymlaen am 30 mlynedd, wedi meddwl sawl gwaith am ei roddi i fyny; ond wedi meddwl felly, ymddangosai y gogoniant ynddo, fel y rhoddid i fyny y cyfryw feddwl drachefn. Y rhai cyntaf a ddychwelwyd fel blaenffrwyth oedd dwy hen chwaer, o'r enw Pally Burrell, Penffynon, a Pally Howell, Tycoch, y ddwy oddeutu 80 oed, trwy weinidogaeth y tanllyd John Morgans, Drefnewydd. Wedi hyny daeth tri neu bedwar o benau teuluoedd o le a elwid Penybryn, fel y galwyd y diwygiad o'r herwydd "Diwygiad Penybryn," lle yr oedd rhes o dai diweddi, ond yn awr a ddaethant yn dai gweddi. Codwyd colofnau i'r achos yr adeg hon, ac eithriadau oedd y rhai a wrthgiliasant.
Cafwyd gauaf oer ar ol hyn. O'r flwyddyn 1842 hyd 1849 a 50, nid oedd nemawr neb yn ceisio Seion; ond lliaws o'r bobl ieuainc yn ymgaledu mewn drygioni, ac yn tori eu hardystiad dirwestol. Ond nid oedd yr eglwys yn llaesu dim yn ei gofal am y ddisgyblaeth; ac y mae yn rhaid dweyd ei bod yn eiddigeddu cymaint dros gyfiawnder a glendid, nes y byddai trugaredd weithiau yn cael ei chymylu. Os byddai un am ddyfod i'r eglwys, ymofynent yn fanwl a fyddai arwyddion edifeirwch ynddo; ac ni chawsai un ei dderbyn i gymundeb heb gael tystiolaeth ei fod yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn gyntaf. A diau genyf fod gwybod hyny wedi bod yn foddion i dramgwyddo llawer meddwl ieuanc, a pheri iddynt gadw draw. Heblaw hyny, ystyriai yr hen dadau fod rhanu y gwallt a chodi qupee, fel ei gel wid, yn arwydd o feddwl balch. Erbyn y flwyddyn 1849, wrth weled fod annuwioldeb wedi ym. byfhau, lliaws o benau tenluoedd diweddi yn yr ardal, a lliaws yn yr eglwys wedi myned i ymdrybaeddu yn y llaid, daeth teimlad dwys yn yr eglwys o'r herwydd, a daeth arwyddion fod Duw yn trugarhau wrth Seion unwaith eto. Un arwydd fod yr argyhoedd-