derfynwyd cynhyrfu y gwersyll, ac wedi rhoddi yr achos gerbron, dywedai yr hen bobl, "Ni ddaeth yr amser eto," bod yr enillion yn fach, a'r angenrheidiau cyffredin yn ddrud. Dadleuai eraill mai wrth fod ar lwybr dyledswydd yr oedd llwyddo, a dygent hanes Israel i brofi hyny. Yn y diwedd, penderfynwyd gwneyd casgliad yn yr Ysgol Sabbothol unwaith bob mis, penodwyd rhai i fyned o amgylch yr ardal i 'mofyn addunedau, a dosbarthwyd hier mantais y casglwyr. Hyn a wnaed, a gwelwyd y byddai digon mewn llaw yn ddioed. Yn y cyfamser, aed o ddifrif i adeiladu tŷ capel, yr hwn yr oedd y 40p. yn fwgan rhag myned ato trwy y blynyddoedd. Y ffaith fu i amgylchiadau y gymydogaeth wellhau yn gyflym mewn enillion; a barned y darllenydd pa un ai damwain oedd hyn, ai ynte y Penllywodraethwr mawr oedd yn dangos ei fod yn un a'i air. Costiodd y tŷ capel 100p., ond trwy fyned ymlaen gyda'r casglu, cliriwyd yr oll erbyn Mawrth, 1854. Yr oedd y Parch. Robert Evans, Llanidloes, yma yn pregethu rywbryd yn Gorphenaf, pan oedd y casglwyr yn dyfod a'r cyfrif i fewn, a gwelwyd fod 20p. yn aros o ddyled. Diolchodd Mr. Evans i'r gynulleidfa am ei haelfrydedd, a dywedodd ei fod ef yn myned i ben isaf y sir, a bod ganddo un cais iddynt erbyn y daethai yn ei ol. Ni ddywedodd beth oedd nes cael addewid bendant y gwnaethent y cais. Yna dywedodd, "Dyma y cais, bod i chwi gasglu yr 20p. yna erbyn y deuaf yn fy ol yma, i ni gael yr achos fel y gadawodd Mab Duw ben Calfaria wedi dweyd Gorphenwyd 'Nawr dim heb dalu, rhoddwyd lawn, nes clirio llyfrau'r nef yn llawn.'" Addawyd y gwnaem ein goreu. "Wel, chwi lwyddwch," meddai yntau. A llwyddwyd i gasglu yr 20p., a 5p. dros ben, fel y teimlai pawb yn llawen.
Gyda hyn dechreuodd y cyfeillion crefyddol yn Blaenycwm fyned yn aflonydd eisiau cael ysgoldy, gan eu bod yn cadw Ysgol Sabbothol yno o dŷ i dŷ er's dros ugain mlynedd. Wrth siarad am ysgoldy aeth yn gapel, a rhaid oedd cael eglwys ynddo ar ei phen el hun. Adeiladwyd capel 9 llath wrth 7 o fewn i'r muriau, am y