dyfod heibio. Ac er mwyn fy rhoddi ar fy ngwyliadwriaeth i beidio myned oddiwrth y ty, dywedai fy rhieni, fy chwiorydd, ac eraill, y byddai rhai felly yn sicr o ddyfod a'm cymeryd ymaith, a'u bod yn tori penau plant bach, a chwedlau eraill tebyg, nes yr oeddynt wedi gyru eu harswyd trwy fy nghalon. A chostiodd yr ymddygiad beius iddynt rai profedigaethau chwerwon.
Dyma un esiamp! i ddangos hyny. Pan oeddwn ryw ddiwrnod yn difyru fy hunan gerllaw y ty, gwelwn sweep yn myned at y drws, ac felly yn tori y cymundeb rhyngof â'r teulu. Yr wyf yn meddwl nad oedd ond fy nwy chwaer gartref ar y pryd. Ac yn hytrach na myned i'r ty, gan faint fy ofn, aethum i chwilio am ddiogelwch yn y beudy neu yr ysgubor. A'r hyn a wneuthum oedd ymrythu tucefn i ddrws yr ysgubor, a dringo i fyny i ben un o farau y drws. Deallodd fy chwiorydd yn y fan fod perygl am danaf, a gwaeddasant nerth eu penau lawer gwaith. Yr oeddwn yn clywed y waedd gyntaf, ond yr oedd gormod o ddychryn arnaf i ateb. Yn y man, daeth un o'r teulu i'r ysgubor, gan waeddi "Thomas, Thomas," ond nid oedd llais na neb yn ateb. Ymdrechwn atal fy anadl, gan gymaint fy ofn, fel y gallaf ddweyd gyda phriodoldeb, "Tra bwy'f fyw mi gofia'r lle." Erbyn hyn, yr oedd llawer o bobl wedi dyfod yno, rhai wrth fyned heibio, ac eraill wedi dyfod ar ol clywed y newydd am fy absenoldeb. Gwaeddent yn gyntaf ar y rhai cyfagos, os oeddynt wedi fy ngweled, a "Naddo" oedd ateb pawb. Yna ymwasgarwyd i bob cyfeiriad, i chwilio at lynau yr afon a llochesau y mynyddoedd, yn gystal a'r ffyrdd. Aeth rhai filldiroedd o ffordd ar yr hynt bryderus. Ond ymhen rhyw awr neu ragor, dyma un i'r ysgubor eilwaith, gan waeddi yn ddolefus, "Thomas, Thomas." Atebais inau yn ddistaw bach, trwy ofyn "A aeth ef i ffwrdd?" gan feddwl y sweep, am mai gyda hwnw yr oedd fy meddwl o hyd. Yna udganwyd i alw yr ymchwilwyr adref, a mawr oedd y teimladau cymysg a'u meddianent wedi clywed pa fodd y bu. Yr wyf yn adrodd hyn fel gwers i rieni, i beidio defnyddio moddion anmhriodol tuag at ddiogelu eu plant.