Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

rhieni yn peri i mi deimlo loesion y fynyd hon, oblegid i mi achosi cymaint o ofid iddynt.

Nis gallaf roddi heibio heb goffhau un peth oedd yn rhoddi argraff ryfedd ar fy meddwl i a'm cyfoedion y pryd hwnw, yr hwn y mae y plant presenol wedi cael ymwared oddiwrtho. Gan fod ein ty, oherwydd y fasnach, yn fath o gyrchfa pobloedd, byddai Ilawer o hen bobl yn troi i fewn i'r tŷ i eistedd, a siarad am oriau am helyntion y wlad a'r oes. Ond digwyddai weithiau y byddai y bwganod a'r canhwyllau cyrff, a phethau eraill cyffelyb, yn cael rhan o'r ymddiddan. Yr oedd pethau mor ryfedd yn cael eu hadrodd a'u sicrhau gan y bobl hyn, nes yr oeddwn bron a rhedeg yn fynych rhag fy nghysgod fy hun. Ond yr oedd y rhai hyny yn eu credu yn gadarn, fel yr oedd eu gwedd ofnus yn dangos pan yn eu hadrodd. Gan fod y dynion hyny mewn oedran, ac ar yr un pryd yn ymddangos mor bryderus, yr oedd yn myned ymhell i fagu yr un ysbryd ofergoelus yn y plant. Pan ddaethum i addfedrwydd oedran, ac i ddeall pethau yn well, penderfynais ddial ar athrawiaeth y gethern, y rheibio, a phob peth cyffelyb. A da genyf gael gweled y dyddiau pan y mae pethau felly wedi myned yn wawd.

PENOD II.

Tymor Diwylliant.

YN YR YSGOL—YSGOL Y DUC OF NEWCASTLE—YN CHWAREU—CYNYG AR FYNED I LOEGR.

Y CYFNOD nesaf yn fy hanes ydoedd yr adeg i'm rhoddi dan addysg. Nid oedd fy rhieni, mae'n debyg, wrth fy rhoddi mewn ysgol, yn meddwl ond i mi gael digon i fy nghymhwyso i fod yn siopwr fel fy nhad. Yr oedd ef yn gweled gwerth mewn addysg trwy ei