yn holi yr ysgol ar "Gwymp Dyn," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ddiwedd yr odfa, nes yr oedd llawer yn molianu, eraill yn wylo yn hidl, a llawer o'r ieuenctyd gwylltaf yn ymddangos dan argyhoeddiad dwys. Ond yr hyn oedd yn ofid i mi ar y pryd oedd fy mod yn credu mai fi oedd y caletaf yn y lle. Modd bynag, gwasgodd hyny yn ddwys ar fy meddwl drwy y nos, a thranoeth hefyd; ac erbyn cyfarfod a'm cyfeillion nos dranoeth, deallais eu bod hwy wedi iachau, ac nad oedd y dylanwad hwnw iddynt ond fel gwlaw ar gareg. Ond ni allwn i deimlo y gallwn fod yn llawen a digrif gyda hwy megis cynt, er y gwnawn ymdrech orchestol i fod felly. Ac er myned gyda'm cyfeillion yn yr hwyr hwnt ac yma, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl; a byddwn yn ei deimlo yn ddisymwth weithiau mor ddwys, nes gorfod ffurfio rhyw esgus i ymadael oddiwrthynt. A phan elai yn nos, awn i ganol y cae i gysgod y stack llafur i weddio. Deallodd fy rhieni fod rhyw bryder arnaf, a thorwyd ataf am fy mater mawr. Nid oeddwn wedi llwyr adael y seiat, ond arhoswn yn ol weithiau rhag ofn fy rhieni. Ac aethum yno eto gyda hwynt ar yr amod na byddai iddynt adael i neb ymddiddan â mi. Yr oedd arnaf ofn nad oedd yn beth i bara; ac ofnwn hefyd os awn ymlaen, y byddai yn rhaid i mi weddio yn gyhoeddus. Yr oedd y meddwl am hyny bron a fy llethu. Nid oedd yr hen dadau y pryd hwnw yn caniatau i neb fyned i gymundeb heb ei fod yn cadw dyledswydd deuluaidd, pa mor ieuanc bynag fyddai. Ond y noson grybwylledig, yr oedd yno fachgen ieuanc yr un oed a minau, yn dyfod i ymofyn am le yn yr eglwys. Yr oedd wedi bod yn fachgen gwyllt iawn. Pan alwyd ef ymlaen i gael gwybod beth oedd wedi dal ar ei feddwl, methai a dweyd dim ar y cyntaf gan wylo. Ond ymhen enyd, pan oedd rhai o'r hen frodyr a chwiorydd yn trydar fel colomenod, a rhai fel ceiliogod y dydd yn canu, dywedodd mai darllen Dameg y Gwr Goludog a Lazarus oedd wedi dal ar ei feddwl. Yr oedd yn dweyd pethau mor ryfedd am ei brofiad, nes gwneyd yr holl eglwys yn foddfa o ddagrau.