Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.

Dyfod yn Aelod.

ODFA HYNOD YN GWEDDIO—YN YMWASGU AT Y DISGYBLIONYN—DECHREU CADW DYLEDSWYDD DEULUAIDD—YN YMUNO A'R EGLWYS—YN PRIODI.

OND rhyfedd fu amynedd Duw yn fy ngoddef yn fy ngwrthgiliad! A mawr fu ei drugaredd tuag ataf yn fy nghofio yn fy iselradd ! Clod i'w ras. Ryw Sabbath, yn y flwyddyn 1844, pan oedd blaenor yn cyhoeddi y moddion am yr wythnos ganlynol, dywedai fod hwn i fod nos Fawrth yn pregethu, un arall nos Fercher, un arall nos Iau, a rhai eraill nos Wener. "Wel, wel," meddwn inau, "beth ddaw o'r holl bregethu yma, beth fydd y canlyniadau?" Modd bynag, yn yr odfa nos Fawrth, glynodd rhywbeth yn fy meddwl na fedrwn ymryddhau oddiwrtho. Nis gallwn beidio gweddio, a chwiliwn am le ar fy mhen fy hun i dywallt fy nghalon gerbron yr Arglwydd. A dyfnhau yr oedd yr argraffiadau ar fy meddwl yn. odfeuon y nosweithiau dilynol, nes yr oedd i raddau yn ddifrifol arnaf. Treiwn ymysgwyd oddiwrth y teimladau, a threiwn gredu nad oedd dim neillduol arnaf, ond yr oedd hyny yn anmhosibl.. Yn y trallod hwn y bum am rai wythnosau, ac ar yr un pryd yn ceisio ei guddio oddiwrth bawb eraill. Ond O! mor dda genyf oedd cael cyfleustra i ddadlwytho fy maich gerbron gorsedd gras mewn dirgel—fanau! Heb fod yn faith, deallodd fy rhieni a'm chwiorydd. fod rhywbeth mawr yn fy mlino; ond nid oeddynt yn synied yn. iawn ar y cyntaf beth oedd yr achos o hono. Yr oedd fy maich yn llawer trymach i'w ddwyn tra yn ymgadw rhag dweyd wrth neb