adnod a gofnodais wedi bod i mi byth wedi hyny fel yr Himalaya ymhlith y mynyddau.
Nid oes dim neillduol i'w gofnodi yn fy hanes, yn ystod y blynyddoedd oedd yn canlyn, dim ond mai i lawr ac i fyny y byddwn o ran fy mhrofiad crefyddol. Byddwn yn cael rhyw bleser rhyfedd, weithiau, wrth weddio a darllen y Beibl. Aml y teimlais y fath fwynhad yn y gymdeithas ddirgelaidd, nes y byddwn, gyda'r eglwys yn llyfr y Caniadau, yn barod i dynghedu pob peth i beidio fy aflonyddu.
PENOD VI.
Y gwaith gafodd i'w wneyd.
YN ATHRAW—YN ATHRAW YR ATHRAWON—YN AROLYGWR—YN CYFANSODDI AREITHIAU MEWN CYFARFOD DAUFISOL —DDEWIS YN FLAENOR—EI DYWYDD GYDA GOLWG AR BREGETHU —YN MYNED TRWY Y DOSBARTH—YN DECHREU PREGETHU.
CEFAIS fy adferu i'r swydd o athraw yn uniongyrchol wedi fy nerbyn yn aelod eglwysig. Ac helaw hyny, heb fod yn faith, dechreuodd y brodyr roddi gwaith i mi gyda'r peth hyn a'r peth arall, ac yr oedd arnaf ofn dangos yr anufudd-dod lleiaf i wneyd yr hyn a allwn. Pan oeddwn tua 23ain oed, gosodasant fi yn athraw ar y dosbarth o athrawon cynorthwyol. Dyma pa bryd y teimlais yr anhawsdra lleiaf i ufuddhau iddynt, a hyny yn benaf oherwydd fy mod yn ieuanc, a'r nifer fwyaf yn y dosbarth yn