ddigon hen o dadau i mi. A gallaf ddweyd fy mod, oblegid hyny, a phethau pwysig eraill, wedi gorfod teimlo fy hun yn annheilwng i'w cynghori, a gwasgu addysgiadau atynt oddiwrth y gwirioneddau dwyfol dan sylw. Nid oedd bod yn athraw yn faich arnaf, gan y teimlwn hyfrydwch mawr bob amser yn holl waith yr Ysgol Sabbothol; ond yr oedd ymgymeryd a bod yn athraw i athrawon yn ormod genyf. Yr oeddwn yn methu ymwadu a mi fy hun i wneyd yr hyn a ddylaswn, ac yn teimlo cyhuddiadau cydwybod yn fynych, fel na allwn dori trwodd atynt o ddifrif. Teimlwn fod fy mrodyr wedi gwneyd camgymeriad wrth fy ngosod yn y fath le mor ieuanc. Buasai yn well genyf gael dosbarth yn iau na mi, fel y gallaswn fod yn rhydd oddiwrth y cadwynau uchod, i wasgu addysg at eu meddyliau.
Wedi bod am ryw ddwy flynedd yn y lle a nodwyd, syrthiodd y coelbren arnaf i fod yn gyd—arolygwr â Mr. Thomas Jenkins, Pencnwc; a buom yn cydweithio yn y swydd hono am bump neu chwe blynedd. Cefais bleser mawr wrth weithio gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd, yn enwedig gan fy mod yn gweithio megis dan aden y fath henafgwr a T. Jenkins. Ac yr oedd yma ar y pryd staff o athrawon cyfrifol a gweithgar, y rhai na byddent nemawr byth yn esgeuluso yr ysgol. Yr oedd y capel, hefyd, yn orlawn o aelodau bob Sabbath bron yn ddieithriad. Darfu i'r brodyr, yn y cyfnod hwn, fod yn dra haelionus i bentyru gwaith arnaf, trwy fy ngosod i gyfansoddi areithiau ar gyfer y Cyfarfodydd Daufisol, a myned yno yn fynych i'w traddodi. Diolch a ddylwn am hyn, gan i'r fath feichiau, ar ol eu dwyn, chwanegu fy nerth.
Ond nis gallaf anghofio y brofedigaeth a gefais unwaith oddiwith nifer mawr o'r brodyr blaenaf. Yr oeddwn wedi llafurio yn fawr i wneyd araeth ar "Y pethau anghenrheidiol i adnewyddu yr Ysgol Sabbothol;" ond wedi i mi ei hadrodd mewn cyfarfod athrawon, y Sabbath o flaen y Cyfarfod Daufisol, yn ol yr arferiad ar y pryd, ni chafodd yr araeth yr un gymeradwyaeth ganddynt