tithau trwyddi yn rhwydd." Dywedodd lawer o bethau eraill wrthyf: a chyn ein myned at y capel, tarawodd ei law ar fy ysgwydd, a gofynodd, "Pa bryd bellach yr wyt ti yn meddwl dechreu? Mae yn rhaid i ti fyn'd, cofia." Teimlais fy hun yn gwrido, ac ni ellais ateb gair iddo. Yn y cyfamser, yr oedd y diweddar Barch. Robert Roberts, Llangeitho, i fod yma ryw Sabbath, am ddau a chwech o'r gloch. Gan ei bod yn llawn amser arno yn dyfod, ceisiodd gan y blaenoriaid roddi ar rywun i ddechreu y cyfarfod, "Onid oes yma gyda chwi," meddai, "ryw fachgen bach a thuedd ynddo i bregethu ?" Darfu iddynt hwythau geisio gan frawd oedd ar y pryd yn ymgeisydd, ond nad aeth byth i bregethu. "Na, nid dyna yr enw," meddai Mr. Roberts. "Ai Thomas Edwards," gofynent hwythau. "Ië, dyna fe," oedd yr atebiad. Yr oeddwn yn y lle pan ddechreuodd y siarad, ond pan ddeallais i ba le y cyfeiriai Mr. Roberts, dechreuais weithio fy ffordd allan; ond gwaeddodd Mr. David Jones, Llaneithir, arnaf, bod yn rhaid i mi ddechreu y cyfarfod. Pe buaswn heb glywed yr ymddiddan, buaswn yn llawer rhyddach fy meddwl at y gwaith. Yn fuan wedi hyn, daeth y diweddar Barch. W. Davies, Rhymni, heibio ar gyhoeddiad, a chymerodd "Y gweision a'r talentau" yn destyn. Darfn i'w sylwadau fy nghornelu, fel nad oedd genyf yr un lle i gilio, ond rhoddi fy hun i'r brodyr i wneyd yr hyn a geisient genyf, deued arnaf fel y delo yn y canlyniad. Yn fuan daeth Mr. Roberts yma drachefn, a chlywais iddo roddi ychydig o sen i'r blaenoriaid am na fuasent wedi dwyn fy achos ymlaen. Eu hesgusawd oedd, eu bod yn disgwyl am i mi roddi fy achos iddynt. Yr oeddwn ar y pryd wedi pasio 30 oed.
Yr oedd genyf gymydog, Mr. Lewis Oliver, wedi dyfod i ddeall, trwy fy ngwraig, lawer o'r gyfrinach. Mynegodd hwnw y peth i'r blaenor, Mr. David Jones, Llaneithir. Wedi hyny cymerodd y blaenoriaid fy achos i fyny, a rhoddasant ef o flaen y Parch. Edward Hughes, Aberystwyth. Holodd hwnw fi yn y seiat am fy nghymhelliadau i'r gwaith, a gofynodd arwydd o gymeradwyaeth