Yr oedd yn sylwedydd manwl a chraffus ar bron bob peth. Fer y canlyn yr ysgrifena Mr. Abraham Oliver, blaenor yn eglwys Cwmystwyth, am dano:—" Efe oedd arweinydd a chynghorydd ei gymydogion ar bob peth o bwys. Yr oedd yn astudiwr caled o ddeddfau natur, fel, wrth arfer sylwi, y gallai ddweyd bron bob amser pa fath hin a geid am y diwrnod. Yr oedd gan Mr. Thomas, y Pentre, y fath gred ynddo yn y cyfeiriad hwn, fel na wnelai ddim o bwys yn amser cynhauaf heb ymgynghori' âg ef. Ar dywydd gwlyb yn amser cynhauaf y gwair, edrychai yr holl ardal pa beth oedd Mr. Edwards yn wneyd, a pha beth bynag fyddai hyny, felly y gwnaent hwythau. Pan symudai efe symudent hwythau." Mae pob un sydd yn rhoddi ei hanes yn tystiolaethu am yr un ffaith. Gwel y darllenydd yn ei bregethau brofion o'r un peth. Adnabyddai wahanol gymeriadau o ddynion yr un fath, fel y gwyddai pa fodd i drin pawb. Dywedai un wrthym, yr hwn a fu yn byw am flynyddoedd yn yr ardal, ei fod ef wedi synu gymaint oedd dylanwad Mr. Edwards ar yr eglwys a'r gymydogaeth. "Yr oedd yn oracl yr ardal," meddai, "am bob peth crefyddol ac amgylchiadol." Yr oedd felly gyda'r boneddig yn gystal a'r gwreng. Yr oedd cadbeniaid y gwaith i gyd yn edrych arno fel un o brif ddynion y gymydogaeth, a mwyaf ei ddylanwad ar bob math mewn cymdeithas. Ysgrifena Mr. John Davies, Trefriw gynt, blaenor yn Capel Afan, gyda golwg ar y parch cyffredinol a delid iddo, a dywed, "Bob amser pan y byddai Mr. Edwards yn Capel Afan, yr oedd yn rhaid iddo fyned at fy mrawd i Trefriw Fawr i letya, os na byddai yn myned adref. Er mai aelod o'r Eglwys oedd Mr. Evan Davies, nid oedd hyny yn gwneyd un gwahaniaeth. Pe buasai Archesgob Canterbury yno, ni chawsai well derbyniad na Mr. Edwards. ei fod yn wr mor urddasol, ni roddai drafferth i neb, ond bod yno fel un o'r teulu, a phawb yn hoffi ei gwmni. Pan yn y gauaf, gan ei fod yn wr o farn am bron pob peth, byddai fy mrawd yn myned ag ef i weled yr anifeiliaid; ac os byddai ganddo geffyl da i'w werthu, neu eidion yn cael ei dewhau, rhaid oedd eu dangos iddoYr oedd yn sylwedydd manwl a chraffus ar bron bob peth. Fer y canlyn yr ysgrifena Mr. Abraham Oliver, blaenor yn eglwys Cwmystwyth, am dano :—" Efe oedd arweinydd a chynghorydd ei gymydogion ar bob peth o bwys. Yr oedd yn astudiwr caled o ddeddfau natur, fel, wrth arfer sylwi, y gallai ddweyd bron bob amser pa fath hin a geid am y diwrnod. Yr oedd gan Mr. Thomas, y Pentre, y fath gred ynddo yn y cyfeiriad hwn, fel na wnelai ddim o bwys yn amser cynhauaf heb ymgynghori' âg ef. Ar dywydd gwlyb yn amser cynhauaf y gwair, edrychai yr holl ardal pa beth oedd Mr. Edwards yn wneyd, a pha beth bynag fyddai hyny, felly y gwnaent hwythau. Pan symudai efe symudent hwythau." Mae pob un sydd yn rhoddi ei hanes yn tystiolaethu am yr un ffaith. Gwel y darllenydd yn ei bregethau brofion o'r un peth. Adnabyddai wahanol gymeriadau o ddynion yr un fath, fel y gwyddai pa fodd i drin pawb. Dywedai un wrthym, yr hwn a fu yn byw am flynyddoedd yn yr ardal, ei fod ef wedi synu gymaint oedd dylanwad Mr. Edwards ar yr eglwys a'r gymydogaeth. "Yr oedd yn oracl yr ardal," meddai, "am bob peth crefyddol ac amgylchiadol." Yr oedd felly gyda'r boneddig yn gystal a'r gwreng. Yr oedd cadbeniaid y gwaith i gyd yn edrych arno fel un o brif ddynion y gymydogaeth, a mwyaf ei ddylanwad ar bob math mewn cymdeithas. Ysgrifena Mr. John Davies, Trefriw gynt, blaenor yn Capel Afan, gyda golwg ar y parch cyffredinol a delid iddo, a dywed, "Bob amser pan y byddai Mr. Edwards yn Capel Afan, yr oedd yn rhaid iddo fyned at fy mrawd i Trefriw Fawr i letya, os na byddai yn myned adref. Er mai aelod o'r Eglwys oedd Mr. Evan Davies, nid oedd hyny yn gwneyd un gwahaniaeth. Pe buasai Archesgob Canterbury yno, ni chawsai well derbyniad na Mr. Edwards. ei fod yn wr mor urddasol, ni roddai drafferth i neb, ond bod yno fel un o'r teulu, a phawb yn hoffi ei gwmni. Pan yn y gauaf, gan ei fod yn wr o farn am bron pob peth, byddai fy mrawd yn myned ag ef i weled yr anifeiliaid; ac os byddai ganddo geffyl da i'w werthu, neu eidion yn cael ei dewhau, rhaid oedd eu dangos iddo
Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/44
Gwirwyd y dudalen hon