ef, a chael ei farn am danynt. Yr oedd gan y teulu y fath barch iddo, fel na chlywid yr un o'r plant byth yn ei alw yn Thomas Edwards, yn ei gefn yn fwy nag yn ei wyneb, ond bob amser, 'Mr. Edwards, y Cwm,' fyddai ei enw.”
Rhydd Mr. Davies, hefyd, yr hanesyn canlynol am dano, yn ei gysylltiad âg Arglwydd Vaughan, y Trawsgoed: "Yr oedd yr hen Earl Lisburne yn arfer dweyd am dano,-' Yr wyf yn deall wrth olwg Mr. Edwards, Cwmystwyth, ei fod yn bregethwr da.' Nid rhyfedd i Earl of Lisburne ddweyd hyny am dano, gan ei fod yn barnu wrth olwg allanol pethau. Yr oedd Mr. Edwards yn farchogwr rhagorol yn nghyfrif pawb; a gwelodd yr Earl ef lawer gwaith ar gefn ei farch coch, mor fedrus a syth ag un o Horse Guards Victoria. Ond er y parch a delid gan yr Earl i Mr. Edwards, nid oedd ef yn myned yn rhy bell i ffordd yr Earl er mwyn ei foddloni, os na byddai pethau yn weddus, yn ol barn ei gydwybod ef. Pan oedd yr Earl presenol yn dyfod i'w oed, galwyd y tenantiaid i gyd i giniaw i'r Trawsgoed. Ac anfonodd yr Earl lythyr pendant at Mr. Edwards, i'w wahodd yntau yno. Ar y dydd apwyntiedig, cychwynodd i fyned yno; a phan o fewn ychydig bellder i'r lle, dywedwyd wrtho fod yno ryw bethau oedd yn groes i'w gydwybod dyner ef, trodd yn ei ol heb fyned un fodfedd yn mhellach."
Golwg ddifrif-ddwys fyddai golwg Mr. Edwards, eto ni ellid dweyd ei fod yn drymaidd. Yr oedd yn ddyn boneddigaidd a pharchus yr olwg, eto yn ddyn oedd yn sylwi ar bawb ac yn gosod gwerth ar bawb. Yr oedd yn hawdd i bawb nesau ato, eto yr oedd yno ryw derfyn anweledig, fel na ellid myned yn rhy agos Yr oedd yn llawn o gydymdeimlad, fel y cyfrifid ef yn ganolbwynt, lle y byddai bron bawb yn dyfod i adrodd eu tywydd, ac i gael cyfarwyddyd mewn dyryswch. Yr oedd yn un o feddwl cyflym ffurfio barn, a hono, gan amlaf, yn un bur gywir; yn meddu ar galon deimladwy i fyned i mewn i dywydd ei gymydog, ac yn gyfaill mor gywir i guddio cyfrinach. Dywed Mr. Oliver am dano: