Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD III.

Fel Cristion.

EI DROEDIGAETH AMLWG—DIRGEL-FANAU—MR. THOMAS, Y PENTREF—YN EI DEULU—YMARWEDDIAD CYFFREDINOL.

MAE i'r gair Cristion, fel yr arferwn ef yma, dri ystyr: 1. Cristion o ran proffes; 2. Un felly o ran cyflwr rhyngddo â Duw; 3. Un amlwg felly i bob dyn. Mae y cyfuniad o'r tri yn gwneyd Cristion cyflawn. Nid ydym yn myned i brofi fod Mr. Edwards felly; pe byddem yn gwneyd ymgais at hyny, byddai miloedd yn barod i ddweyd, "Dyna beth heb angen am dano." Yr oedd golwg Cristion yn ei wyneb, naws Cristion ar ei ysbryd, geiriau Cristion yn ei enau, a gweithredoedd Cristion yn ei ddwylaw. Gall llwch ymdaenu dros yr eira, ac ymgymysgu âg ef, ond nid oes neb oblegid hyny yn myned i brofi fod yr eira yn wyn. Gall yr afon ymdroelli ac ymddolenu wrth redeg trwy y dyffryn, ond nid yw neb oblegid hyny yn myned i brofi ei bod yn rhedeg tua'r môr. Yr oedd gwaeleddau yn perthyn i Mr. Edwards, ond yr oedd y rhinweddau a'r grasusau gymaint yn fwy prominent ynddo, fel yr oedd ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth. Yr oedd ei ymddangosiad dymunol, a'r doraeth dda o synwyr cyffredin oedd ynddo, yn gwneyd y Cristion yn fwy amlwg mewn cysylltiad âg ef, hyd yn nod na llawer o'i frodyr yn y weinidogaeth. Ac, i ganmol ei Gristionogaeth yn fwy, yr ydym yn gallu tystio i ni glywed rhai yn achwyn arno. "Gwae chwi," meddai Crist, "pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch; canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi." Rhai yn dweyd ei fod wedi bod yn rhy galed wrthynt mewn disgyblaeth oedd y rhai hyny. Pa fodd bynag,