Davies, y cyfeiriasom ato o'r blaen, yn rhoddi yr hanes canlynol:"Mae y Fron, preswylfod Mr. Edwards, yn ffinio â fferm Pentre Brunant. Byddai Mr. Thomas, y Pentre, yn arfer codi yn foreu iawn yn yr haf, i edrych am y defaid, rhag iddynt ddyfod i lawr o'r mynydd a gwneyd niwed i'r cnydau. Byddai yn codi ar foreu Sabbath, fel boreuau eraill, o gwmpas tri o'r gloch. Mae Cwm Cul rhwng y Fron a'r Pentre, a nant fechan yn rhedeg trwyddo. Ar un boreu Sabbath, gwelodd Mr. Thomas y gwr o'r Fron ar ei liniau yn y Cwm Cul hwn, ac arwyddion arno ei fod yn ymdrechu yn galed â Duw, pan oedd pawb eraill yn eu gwelyau. Byddai Mr. Thomas yn arfer dweyd, 'O'r fath golled fyddai ei golli!" Mae plentyn iachus a chryf am y fron yn fynych, ac yn sugno yn helaeth o honi. Ac wedi dyfod i redeg o amgylch ar ol ei bethau, rhaid iddo fyned i'r tŷ yn fynych i 'mofyn am damaid. Cristion iach a chryf oedd Mr. Edwards, a rhaid oedd iddo yn fynych wrth ddidwyll laeth y gair, a rhedeg am damaid i'r dirgel, a hyny rhwng y prydiau mawr fyddai yn gael gyda'i frodyr yn y cysegr yn gyhoeddus. Fel y mae gan y bugeiliaid ar y mynydd eu bwthynod neillduol, lle y maent yn ymgysgodi ar gawod, yn gorphwys ganol dydd, yn bwyta eu prydiau bychain, yn dadluddedu, ac yn ymgysuro, pryd na allent fod yn eu cartrefi cyhoeddus; felly yr oedd ganddo yntau ei luest bugail, a gwnelai ddefnydd da o hono.
Yr oedd ei ofal yn fawr hefyd am ordinhadau cyhoeddus crefydd. Dywed Mr. Morgan Morgans, blaenor yn Cwmystwyth, fel y canlyn: "Cryn gamp i neb gyraedd tir uwch nag ef mewn crefydd. Medrai ddweyd pan yn marw mai dau gyfarfod a esgeulusodd yn ystod ei holl oes grefyddol. Dywedai mai yn y cyfarfod gweddi yr oedd yn cael y cymorth mwyaf i wneyd ei bregethau. Gallwn ninau sicrhau fod ei bresenoldeb yn y cyfarfod gweddi a'r cyfarfod eglwysig, yn arwydd i ni bob amser na byddai y cyfryw gyfarfodydd yn amddifad o ysbryd crefydd."
Yr oedd yr un fath yn ei deulu. Caiff ei fab, Mr. M. Edwards, C.M., lefaru" Yr oedd yn ffyddlon i Dduw yn ei holl dy. Ni