Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD IV.

Fel Gweinidog.

EI ORDEINIAD—MAES EI LAFUR YN YMHEANGU—EI NODWEDD FEL PREGETHWR—FEL GWEITHIWR—FEL BUGAIL.

TRA yr oedd myned i bregethu yn aros gydag ef yn bersonol, bu yn hir yn meddwl, yn bwriadu, a phryderu; ond pan ddaeth ei achos i ddewisiad yr eglwysi, gwnaethant hwy fyr waith arno. Cafodd ddrws agored i ddechreu ar unwaith yn 1855, ac ordeiniwyd ef yn 1862, yn Nghymdeithasfa Llanbedr; pryd y traddodwyd araeth ar "Y moddion mwyaf effeithiol i adferyd dylanwad y weinidogaeth," gan y diweddar Barch. B. D. Thomas, Llandilo, ac y traddodwyd y Cyngor gan y diweddar Barch. D. Jones, Treborth. Yr oedd ef wedi pregethu llawer yn nghyfarfodydd yr eglwys gartref, ac yn nghyfarfodydd Ysgol Sabbothol Dosbarth Cynon, cyn iddo fyned yn bregethwr rheolaidd. Ac am ei fod mor rhagorol yn y cyfarfodydd hyny, yr oedd yr eglwysi am ei gael i'r pulpud. Nid oedd lawer gwell yn y pulpud nag yn y cyfarfodydd a nodasom, hyd ddiwygiad 1858 a 1859, pryd y cafodd ysbryd newydd, a symudiad mawr ymlaen. Nid ydym yn meddwl iddo golli fawr o'r ysbryd hwnw hyd ddiwedd ei oes; ond yr ydym yn sicr i'w faes llafur gynyddu yn fawr, a bod arno eisiau ysbryd newydd ar gyfer hyny. Yn fuan ar ol hyn rhoddodd i fyny weithio yn y gwaith, ac ymgymerodd â bod yn ysgolfeistr. Trwy hyn bu mewn caethiwed mawr am ddeng mlynedd, gan ei fod yn gorfod bod gartref erbyn naw o'r gloch boreu Llun o'r teithiau pellaf. Nid dyn oedd ef i ymgymeryd â gwaith, ac ymfoddloni i'w wneyd rywfodd. Mynych yr oeddym yn clywed am Mr. Edwards yn