cychwyn oddeutu pedwar o'r gloch y boreu. Ond er mor galed y bu arno lawer gwaith, ni chafodd y naill swydd ddioddef oblegid y llall.
Dyn gwledig oedd, ac ni allodd esgyn fawr uwchlaw teimlad gwledig fel pregethwr. Bu ar daith mewn rhai lleoedd yn y De a'r Gogledd, ac yn pregethu yn y trefydd mwyaf a'r lleoedd goreu; ond clywsom ef yn dweyd fwy nag unwaith, "Capeli bach y wlad i mi," sef capeli gwledig Sir Aberteifi. Yr oedd yn gwybod llawer am nervousness ac ofn dyn, nes y byddai mewn caethiwed mawr o'u plegid yn fynych, yn enwedig mewn rhai lleoedd. Clywsom ef yn pregethu yn Hermon, Dowlais, nos gyntaf y Gymdeithasfa yno, ac yr oedd yn amlwg arno ei fod allan o'i elfen. Pregethodd yn dda, ond nid cystal ag yr arferai yn ei sir ei hun. Yr oeddym yn gofidio yno na chawsai gystal odfa a'r un a gafodd yn Nghyfarfod Misol Abermeurig, pan yn pregethu ar "Fwynder Ephraim yn ymado fel cwmwl, ac fel gwlith boreuol." Traddodai yn gyflym, gyda llais hyglyw o'r dechreu i'r diwedd, gan wasgu y gwirionedd at ystyriaeth y gynulleidfa wrth fyned ymlaen. Pregethai o ddifrif, ac yr oedd y wedd ddifrifol oedd ar ei wynebpryd yn help i'r gynulleidfa ddeall hyny. Ni amcanodd erioed fod yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a rydd rhai pobl i hyny. Ond rhyfedd mor fawr yn yr ystyr oreu y daeth. Llwyddodd i ddyfod y mwyaf bron o bawb. yn y sır mewn dau beth: 1. I fod y pregethwr mwyaf anwyl gan y cynulleidfaoedd; rhaid felly ei fod yn llwyddianus i oleuo peth ar eu deall ynghylch y pethau mwyaf eu pwys er eu cadwedigaeth a'u dedwyddwch, i gynyrchu teimlad hyfryd ynddynt at yr efengyl, ac i ddeffro eu cydwybodau gyda golwg ar eu dyledswydd a'u cyfrifoldeb. 2. I fod y pregethwr mwyaf am eni yuddiried yr eglwysi, fel gweithiwr gonest ac ymroddgar; rhaid felly ei fod yn feddianol ar ysbryd rhagorol, ar ffyddlondeb diball, ac ar fesur helaeth o fedr uwchlaw'r cyffredin. Hyn oedd yr achos fod eglwys y Cwm yn ymddiried cymaint iddo, ei fod yn gadeirydd Cyfarfod Daufisol ei ddosbarth, ei fod yn ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac