lwyddodd i wneyd diwrnod da o waith i'w Feistr. Nid oedd yn fawr mewn dim ond duwioldeb, gweddi, a gweithgarwch; eto, yr oedd ynddo gyfuniad hapus o alluoedd meddyliol, a chymwysderau gweinidogaethol. Meddai ar chwaeth bur, cof da, llais soniarus, goslef effeithiol, a gwresogrwydd ysbryd. Ond mewn cymundeb â Duw yr oedd cuddiad ei gryfder. Dywedir fod y llwybr o'r Fron i'r man neillduedig yn ymyl y ty wedi cael ei gadw yn goch trwy y blynyddoedd, gan gerddediad y gwr a ymneillduai yno i weddio. Yn ol dywediad un o flaenoriaid ffraeth y Cwm, yno yr oedd ei Sheffield, lle y tymherai ei arfau ysbrydol, i ymladd â'i elynion personol, ac i enill tyrau i Frenin Seion yn y byd. Astudiai lawer ar ddyn yn ei hanes ei hun, ac yn nghymeriad ei wrandawyr; a threuliai gryn lawer o'i amser yn ei lyfrgell, yn nghwmni yr hen Buritaniaid. Ond yn ei gymundeb agos â Duw yr enillai fwyaf o'i adnoddau."
Ni fu yn fugail ar eglwys y Cwm am flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Yr oedd ef wedi arfer gweithio yno gyda phob peth, ac ni feddylid am ei gydnabod fel gweinidog yn fwy nag o'r blaen. Ond tua'r blynyddoedd 1871 ac 1872, bu y Cyfarfod Misol yn gwasgu ar yr eglwysi i symud ymlaen gyda'r fugeiliaeth, trwy ddewis bugeiliaeth ddosbarthiadol, neu leol, a phenodwyd rhai i ymweled â'r eglwysi er mwyn eu cymell i hyny. Mae yn debyg mai tua'r amser hyny y meddyliodd brodyr y Cwm y dylent symud gyda'r achos. Fel y canlyn y dywed Mr. Abraham Oliver:-"Bu yn wir fugail i'r eglwys hon o'r dechreuad, ond ni chydnabyddwyd ef felly yn ffurfiol hyd 1875. Efe oedd yr ysgogydd a'r arweinydd gyda phob peth cyn hyny. Ië, arweinydd oedd ef, ni fyddai yn gorchymyn rhai at waith heb weithio ei hunan, ac ni cheisiai orfodi neb, ond eu denu. Yr oedd am gael y cwbl perthynol i grefydd yn y gymydogaeth hon yn y wedd oreu. Gweithiodd yn galed i symud y ddyled oedd yn aros ar yr hen gapel, ac i godi tŷ capel mwy teilwng na'r hen at letya pregethwyr. Rhaid wedi hyny oedd cyfnewid yr hen adeiladau at wneyd ysgoldy dyddiol; ac yn y