gydwybod, nes ei wneyd yn hollol anesmwyth am ei gyflwr. Ond, pan yn meddwl dyfod at grefydd, daeth hen air bustlaidd y wraig 'w feddwl o newydd, 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell,' nes ei rwystro eto i gario allan argyhoeddiad ei gydwybod. Beth bynag, yr oedd y dyn yn methu deall y paham a'r pa fodd yr aflonyddwyd ar ei feddwl am grefydd, a hyny mor ddisymwth. Ymhen ysbaid o amser ar ol hyny, daeth yn ol i Gymru, ac i'w hen ardal. Yr oedd ei fam wedi marw pan oedd ef yn America. A pan oedd ei dad yn adrodd yr hanes wrtho am gladdedigaeth ei fam, dywedai, 'Wrth godi dy fam, gweddiodd Mr. Edwards yn ddwysa difrifol iawn drosot ti oedd ymhell o gartref.' 'Beth,' meddai y bachgen, 'pa ddydd oedd hyny, a pa adeg ar y dydd.' Ar ol cymharu, cafwyd allan mai yr adeg yr oedd Mr. Edwards yn gweddio yn y Cwm, yr aflonyddwyd ar ei feddwl ef yn America. Mae y person yn awr yn fyw, ac yn aelod gyda'r Wesleyaid mewn cymydogaeth arall."
Mae yn bosibl y bydd rhai yn ameu yr hanes uchod gyda golwg ar ddylanwad gweddi. Os credwn holl-bresenoldeb Gwrandawr gweddi, ni fydd yn anhawdd credu gwirionedd hanes fel hwn a'r cyffelyb. Yr ydym wedi ei roddi i fewn oblegid y cyflawnder o addysgiadau sydd ynddo. Cafodd Mr. Edwards hefyd fyned i fewn i gyfrinach Duw gyda golwg ar adeg ei farwolaeth. Nos Sadwrn cyn ei farwolaeth, dywedodd wrth un o aelodau yr eglwys y byddai y tren yn ei gyrchu adref dranoeth am bump o'r gloch, ac am bump boreu Sabbath yr ymadawodd, sef y 27ain o Chwefror, 1887, pan yn 62ain oed. Pwy all ddweyd na chafodd y gwr da hwn fynediad helaeth i mewn i'r dragwyddol deyrnas ? Cafodd ei gladdu y dydd Gwener canlynol, yn y fynwent newydd ar bwys y capel, mor anrhydeddus a thywysog. Dywedai y Parch. T. C. Edwards, D.D., wrth ei roddi yn y bedd, "Ychydig o Mr. Edwards sydd yn yr arch yma, ond y mae yr ychydig yna yn gysegredig, ac yn awr yr ydym yn cysegru y fynwent hon â gwir ' halen y ddaear,' ac ni bydd iddi byth fyned ar dân, hyd nes yr