PREGETHAU.
PREGETH I.
SEION YN CLAFYCHU.
Esaiah lxvi. 7, 8. "Cyn ei chlafychu, yr esgorodd, cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. Pwy a glybu y fath beth a hyn ? pwy a welodd y fath bethau a hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Sion yr esgorodd hefyd ar ei meibion."
MAE y datguddiad dwyfol yn dangos y byd mewn sefyllfa druenus iawn, ac hefyd mewn sefyllfa ogoneddus, ar ol myned trwy gyfnewidiad priodol tuag at hyny. Aml y mae y cyfnewidiad hwn yn cael ei alw yn "greu," ac yn "eni," neu "aileni." Wrth Sion yma y meddylir eglwys yr Hen Destament, yr hon a elwir yn briod i Dduw. Gosodir hi allan yma trwy y gydmariaeth o wraig feichiog. Mae yn anhawdd deall meddwl y ddwy adnod, gan eu bod yn gwrthddweyd eu gilydd. Mae rhai yn darllen y geiriau fel gofyniadau. "Ai cyn ei chlafychu yr esgorodd ?" "Na, pwy a glybu y fath beth a hyn?" Gan roddi yn rheswm am y cwb!, "Pan glafychodd Seion?" Eraill yn meddwl bod y ddwy adnod yn cyfeirio at oruchwyliaethau gwahanol. Cawn alw eich sylw
I. AT BETHAU NEILLDUOL A WNA DUW ER LLIOSOGI EI EGLWYS. Mae yn gwneyd peth felly yn nechreuad pob goruchwyliaeth. Rhoddodd addewid werthfawr i'n rhieni cyntaf, pryd nad oeddynt