mae yno fanteision i chwi, trwy y cerfluniau a'r paintings, i ddal cysylltiad â phersonau, meddyliau, ac amgylchiadau yn yr oesoedd o'r blaen, y rhai y gellwch gael gwersi lawer oddiwrthynt. Ond, pe byddai ein deall yn gweithredu yn dda, ac yn gallu gweled deddfau natur yn briodol, gwelem ein bod mewn museum gogoneddus bob dydd ; a bod genym destynau i ryfeddu ac addoli, yn y gwersi a ddysgir i ni gan natur, am ddoethineb gallu a daioni y Creawdwr. Felly yr oedd holl natur i'r Person mawr a lefarodd ddameg y winwydden a'r canghenau; a diau genym fod y byd naturiol wedi ei amcanu i ddysgu i ni wersi am y byd ysbrydol. Gwelwn hyn yn amlwg oddiwrth y pregethwr goreu fu yn y byd erioed; hynod y fath wersi ysbrydol a ddysgai i'r byd trwy y pethau naturiol, yr oedd dynion yn fwyaf cyfarwydd â hwynt, megis yr hauwr, yr adeiladydd, y gwinllanydd, &c. A thrwy ddameg y winwydden yn y benod hon, mae yn dangos yr undeb agos sydd rhwng Crist a'i eiddo. Ac y mae adnod y testyn yn dangos yr angenrheidrwydd am ddwyn ffrwyth i'r diben i brofi yr undeb. Byddwn trwy hyny, yn gyntaf, yn gogoneddu Duw; yn ail, byddwn yn profi ein bod yn ddisgyblion i Grist. Edrychwn,
I. BETH YW Y FFRWYTH.—Mae y gymhariaeth yn gref, dangosir fod y pren yn y canghenau, a'r canghenau yn y pren, a bod y nôdd sydd yn cerdded trwyddynt yn dyfod yn fywyd tyfol a ffrwythlon. Felly y mae ei eiddo yn Nghrist trwy undeb ffydd, a Christ ynddynt hwythau drwy ei air a'i Ysbryd, yn allu i ddwyn ffrwyth ysbrydol er gogoniant i Dduw. Dangosir fod yn anmhosibl dwyn ffrwyth heb fod mewn undeb â Christ, "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim;" ond os mewn undeb âg ef, dangosir fod yr un ysbryd ag sydd ynddo ef, yn sicr o ddangos ei hun mewn ymdrech i fyw bywyd tebyg i Grist, trwy ddilyn esiampl Crist. Mae gwir undeb & Christ yn cynyrchu bywyd tebyg i Grist. Oddiwrth y winwydden y disgwylir grawnwin, ac oddiwrth yr hwn sydd yn Nghrist y disgwylir rhinweddau Cristionogol. Beth a ddisgwyliwch oddiwrth gangen fyddo mewn undeb bywiol â'r winwydden ond grapes yn