bunches cyfatebol i'r nodd? a beth a ddisgwyliwch oddiwrth ddisgybl fyddo wedi ei ddwyn i fyny wrth draed ei athraw am gynifer o flynyddoedd, ond ei fod wedi yfed o'i ysbryd a'i ddysgeidiaeth, nes bod yn debyg iddo? Gwyddom mai un sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid, oedd Crist; a bod ei hunanymwadiad y fath, nes gwneyd hunanaberthiad. Gwna pawb sydd mewn undeb ffydd âg ef dynu y nodd yma o hono er bod yn debyg iddo. Ac i ddangos hyn, edrycher ar yr apostolion, yn eu hymroddiad i bregethu yr efengyl, yn eu gwroldeb, eu hunanymwadiad, a'u hunanaberthiad, i fyned trwy bob rhwystrau yn ngwasanaeth Crist. Y ffrwyth a ddisgwylir gael ar bob disgybl i Grist eto, yw bywyd duwiol, sanctaidd, gonest, geirwir, hunanymwadol a hunanaberthol.
Mae llawer o honoch yn barod i ddweyd nad oes genych fawr o weithredoedd felly i'w dangos. Wel, "aroswch ynddo, megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynddo ef." Yr oedd yn nghynllun dwyfol yr iachawdwriaeth wneyd yr eglwys yn sanctaidd, ei chreu i weithredoedd da, er mawl gogoniant ei ras ef, yn gystal a gwneyd cyfiawnder i'w chyfiawnhau, gwneyd trefn i faddeu i'r troseddwr, a mabwysiadu yr estron i deulu Duw. Ond rhaid aros yn ngeiriau ac esiampl Crist tuag at fyw yn debyg iddo; a thrwy rinwedd yr undeb hwn yn unig y gellir dwyn y ffrwyth y dywed Crist am dano yma.
II. BETH YW AMCAN Y FFRWYTH.—Mae yma ddau beth yn yr amcan:
1. Gogoneddu y Tad.—Cynllun tragwyddol y Tad yw yr eglwys, iddo Ef y priodolir yr arfaethu, yr ethol, &c. Ac yn y cynllun hwn y mae wedi " rhaglunio" pa fath yw y rhai a wnant i fyny yr eglwys i fod, sef, yr un ffurf a delw ei Fab Ef." Yr oedd y gwaith o ddwyn haeddiant tuag at wneyd hyny wedi ei ymddiried i'r Mab. Yr oedd y Tad yn ewyllysio iddo farw er mwyn cael trefn i gyfiawnhau yr euog a golchi yr aflan. Ac O! fel yr ymhyf-