yn y tir, fel erbyn dyddiau Jeremiah, yr oedd holl awyrgylch uchelfreintiog y genedl yn llawn o arwyddion dryghin,— y "ddeddf ar esgor, a'r dydd ar fyned heibio fel peiswyn." Ac nid oedd gan broffwydi yr Arglwydd ddim i wneyd ond proffwydo drwg iddynt. Yr oeddynt wedi myned yn hynod o feilchion ar bwys trugareddau Duw, er eu bygwth â barnau am hyny. Ac os deuai rhyw gyfyngder arnynt, yr oeddynt wedi myned i ymddiried yn eu cyngor eu hun am waredigaeth. A chyfarwyddir Jeremiah yma i ddefnyddio dau o arwyddluniau. Un oedd gwregys a guddiwyd yn yr Euphrates, ag oedd wedi pydru, er dangos y modd y difwynid eu balchder; a'r llall oedd y "costrelau a lenwid gan win," i ddangos y modd y diddymid eu cyngor.
Ond cyn eu taro, dyma anogaeth daer a grasol arnynt i ddychwelyd a throi. "Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw" Mae hyn yn cydnabod ei lywodraeth, cyffesu eu pechodau ac edifarhau am danynt, a dychwelyd at yr Arglwydd. "Cyn iddo ef ddwyn tywyllwch." Mae tywyllwch mewn ystyr ffigyrol yn arwyddo trallodau a gofidiau. Yn y fan hon arwydda y cyfyngder a oddiweddai y genedl, pan ddeuai y Caldeaid gyda gallu anwrthwynebol i'r wlad, a llosgi eu dinas brydferth â than. "A chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll." Mae rhai yn deall hyn mewn ystyr lythyrenol, am y mynyddoedd y deuai Israel i gyffyrddiad â hwynt pan ar eu taith i gaethiwed Babilon. Eraill a'u deallant am adeiladau mawrion Babilon, neu eilunod y Caldeaid. Mae Babilon yn cael ei galw yn "fynydd dinystriol" yn Jeremiah li. 25. Mynyddoedd tywyll iawn fu y llywodraeth Galdeaidd i Judea, pan ddygodd arnynt y fath ofid, dyryswch a chyfyngder.
Mae yn anhawdd i ni gael un adeg mewn unrhyw oes, hyd yn nod pan y byddo crefydd yn flodeuog, a dynion duwiol yn aml, ac yn para yn ffyddlon yn ngwasanaeth eu Duw, na byddo ymhob cynulleidfa ryw un, neu ragor, ag y byddo geiriau y testyn yn briodol iddynt. Ond ar adegau eraill, maent yn gymwys, nid yn unig i berson, neu deulu neillduol, ond i genedl a gwlad yn