ewyllys da ei dad, a'i dori allan hefyd o'r etifeddiaeth. Ond, bobl anwyl, dyma Fab Duw yn ymbriodi ag achos pechaduriaid y ddaear, ac yn dyfod yn wrthddrych cariad ei Dad trwy hyny. Y dirgelwch yw hyn, yr oedd ewyllys y Tad yn gymhelliad i'r Mab i ddodi ei einioes, a chan i'r Mab wneyd hyny trwy orchymyn y Tad, a chydag ymhyfrydiad yn y gwaith, cafodd y Tad megis rhyw gymhelliad newydd i'w garu.
Nid oes eisiau dweyd wrth neb o honoch fod y Mab yn wrthddrych cariad y Tad, ar gyfrif y berthynas sydd rhyngddo âg ef fel ei dragwyddol genhedledig Fab, ac yn meddu yr un perffeithiau ag ef. Nis gallai y Tad lai na'i garu gan mai ei ddelw ef ydoedd. Ond pwnc mawr yr adnod yw, iddo ddyfod yn wrthddrych cariad arbenig y Tad, am iddo fel Bugail Da roddi ei einioes dros y defaid. Mae y Tad yn ei garu am ei fod yn Gyfryngwr, a'r "dyn Crist Iesu." Nis gwn a yw yn ormod dweyd fod y natur ddynol wedi ei chyd-ddyrchafu a'r ddwyfol ar gyfrif y marw, i fod yn wrthddrych cariad ac ymhyfrydiad tragwyddol y Tad. Mae Crist, trwy ddodi ei einioes, wedi amlygu cariad y Tad ei hun, ac wedi gogoneddu cymeriad a llywodraeth ei Dad, fel y teimlai Crist ddedwyddwch mewn dweyd, "Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear." Yr oedd cariad Abraham at Isaac ei fab yn deilwng o gariad tad bob amser; ond diau genym fod gwaith Isaac yn cymeryd ei rwymo mor dawel ar ben Moriah, wedi enyn cariad Abraham ato yn fwy nag erioed. Mae yr ufudd-dod hyd angau wedi gwneyd Crist yn debyg gan ei Dad. Nid oedd dim yn ormod gan Pharaoh ei roddi i Joseph wedi iddo ddeongli ei freuddwydion, ac nid oes dim yn ormod gan Dduw ei roddi i'w Fab, wedi iddo amlygu ei gariad tuag at y byd. Nis gallaf yn awr ond dwyn ychydig o eiriau y proffwydi a'r apostolion ymlaen er mwyn amlygu cymeradwyaeth y Tad o Grist, a'r anrhydedd mae yn osod arno am iddo farw. "Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynal, fy etholedig i'r hwn y mae fy enaid yn foddlawn; rhoddais fy ysbryd arno, ac efe a ddwg allan farn i'r cenhedloedd. Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a