Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nis gallaf ollwng y gwaith o'm llaw, heb drachefn ddatgan gwir ddymuniad fy nghalon, ar iddo fod o ryw fantais i'n pregethwyr ieuainc gydâ golwg ar y gwaith mawr y maent wedi ymgymmeryd âg ef. Yr oedd hyny yn amcan arbenig genyf wrth ei gyfansoddi; ac os nad wyf yn camgymmeryd yn fawr, y mae rhyw fesur o gymhwysder ynddo i hyny. Y mae yn anmhosibl, mi a dybiwn, i'r fath gymdeithas ag a ellir gael trwyddo, â'r cymeriadau sanctaidd a defnyddiol ag yr anrhydeddwyd ein gwlad â hwy, lai nag effeithio i ryw raddau yn ddaionus ar feddwl pob gwr ieuanc a ymwthio iddi. A phared yr Arglwydd na adawer mo honom fel cenedl, ddyddiau'r ddaear, heb ddynion o gyffelyb ysbryd iddynt yn ein plith.

OWEN THOMAS.

161, Islington, Liverpool.

Mawrth 28, 1874.


GWELLIANT GWALLAU.

TU DALEN 62, llinell 5 oddifynu, yn lle "y Parch, David Jones," darllener "y Parch William Jones."

170, llinell 17 o'r gwaelod, yn lle "a'u harweiniai," darllener "a'u harweinient."

537, yn lle," y cysylltiad agos ac angenrheidiol, yn ein dirnadaeth ni," darllener "y cysylltiad agos, ac angenrheidiol yn ein dirnadaeth ni.

576, llinell uchaf, yn lle "Mehefin 14, 15, 16, 1826," darllener "Mehefin 17, 18, 19, 1828."

eto, llinell 9 o'r gwaelod, yn lle "Medi 27, 28, 1826," darllener "Medi 17, 18, 1828."

729, llinell 9 oddifynu, yn lle "yr edrych," darllener "yr ydych yn edrych."

883, darllener llinell 5 oddifynu, ar ol y linell gyntaf.

957, llinell 16 o'r gwaelod, yn lle "Hydref, 1837," darllener "Hydref, 1836."