Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra anfanteisiol yn Llanrhochwyn, a'i fod yn awyddus iawn, pe buasai bosibl, cael rhywle i weithio a fuasai yn caniatau ychydig fwy o ryddid iddo, ac heb fod mor bell oddiwrth y teithiau Sabbothol, fe gynnygiodd Mr. Griffith Williams iddo, os deuai i fyw i'r gymmydogaeth hono, y rhoddai efe fwyd a lletty iddo am un flwyddyn am ddim, ac y cai le da yn y Gloddfa i ennill arian. Penderfynodd yntau, yn y fan, nas gallai wneyd dim yn well na derbyn y cynnyg caredig a wneid iddo. Addawodd y deuai yno ar ddiwedd y flwyddyn. Yr oedd ganddo ryw nifer o gyhoeddiadau, yn Sir Feirionydd, a wnelai yn annghyfleus iddo ddyfod yn gynt; ac yr oedd yn neillduol yn ewyllysio cael cyfleusdra i ffarwelio â'i dadau a'i frodyr yn y Cyfarfod Misol yno. Wedi gwneyd ei feddwl i fynu felly aeth i lawr dranoeth i'r Gymdeithasfa yn Nghaernarfon. Cafodd hyfrydwch a budd neillduol yn y Gymanfa hono, yn enwedig yn yr ymddyddan braidd annghydmarol a fu yno, yn ol ei ddysgrifiad ef, ar Ddysgyblaeth Eglwysig. Yr oedd y diweddar Barch. David Charles, Caerfyrddin, yn y Gymdeithasfa hono, ac yn cymmeryd rhan arbenig yn yr ymddyddan. Yr oedd Mr. Charles yn pregethu yno am ddeg ar y gloch, ar ol y diweddar Barch. Wm. Morris, Tŷ Ddewi, Cilgeran, y pryd hyny. Nid oedd y naill na'r llall yn gallu dywedyd yn agos yn ddigon uchel i'r dorf fawr oedd yn nghyd eu clywed; ac fe droes oedfa y boreu, oherwydd hyny, i raddau mawr yn fethiant. Ond yr oedd Mr. William Havard a Mr. Elias yn pregethu am ddau ar y gloch, a hyny nid yn unig yn ddigon uchel i'r holl dref agos eu clywed ond gydag effeithiau annghyffredin. Cafodd Mr. Elias bregeth anarferol, hyd yn nod iddo ef ei hunan, ar Exod. xxxii. 26, "Yna y safodd Moses yn mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du yr Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef." Byddai John Jones yn fynych yn sylwi ar y gwahaniaeth oedd rhwng Mr. Charles a Mr. Elias yn y cyfarfod neillduol ac ar y maes cyhoeddus. Sylwadau Mr. Charles yn yr ymddyddan neillduol oeddent yn tynu sylw pawb, tra mai Mr. Elias uwch ben y miloedd oedd yn unig yn cael ei deimlo "fel un ag awdurdod ganddo." Ac yr oedd John Jones yn priodoli y gwahaniaeth nid yn gymmaint i ragoriaeth y naill ar y llall mewn gallu meddyliol ar y naill law, neu ddawn areithyddol ar y llaw arall, ag i'r ffaith fod Mr. Elias yn gosod y meddyliau oedd ganddo mewn gwedd rhy areithyddol mewn cyfarfod o rydd-ymddyddan, oedd wedi ei fwriadu er mwyn ceisio dwyn yr hyn