Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ddyrys i eglurder; a Mr. Charles yn ymddangos yn un fel heb feddwl, pan yr oedd ugain mil o bobl o'i flaen, nad mewn cynnulliad bychan yr oedd o ychydig gyfeillion yn cyd-ymdrech a'u gilydd i gael allan y gwirionedd ar ryw fater oedd dan sylw, heb fod angenrheidrwydd cymhell y naill yn hytrach na'r llall i bryder yn nghylch hyny. Fe gododd Mr. Charles yn y cyfleustra cyntaf hwn a gafodd John Jones i wrandaw arno yn nghyfarfodydd neillduol y Gymdeithasfa yn uchel iawn yn ei feddwl; er nas gallai ymryddhau oddiwrth y dybiaeth fod y dull arafaidd a digynhwrf a arferid ganddo i draddodi yn peri i'r pethau ymddangos yn fwy i'r rhai oeddent eisoes yn astud i wrandaw na phe buasai yn llefaru mewn gwedd fwy a reithyddol, pa annghymhwysder bynnag a allai fod yr y fath ddull i dynu ac i sefydlu sylw y rhai anfeddylgar; tra yr oedd pethau Mr. Elias mewn gwirionedd yn ymddangos yn hytrach yn llai oblegyd y gallu areithyddol dirfawr a ddangosid ganddo yn y traddodiad o honynt, a'i ddull effeithiol yn eu gwneuthur mor eglur i'w wrandawyr. Fe ddychwelodd John Jones o'r Gymdeithasfa i'w gartref ei hunan yn Nolyddelen, ac a hysbysodd i'w fam a'r teulu yno ei benderfyniad i symmud tua'r Nadolig i Lanllyfni. Yr oedd ei fam yn barnu, ar unwaith, nas gallai wneuthur dim oedd well; ac yn llawenhau yn fawr ei fod wedi cael y fath gynnygiad gan Mr. Griffith Williams. Yr wythnos ganlynol, aeth i'r Gloddfa i Lanrhochwyn, a hysbysodd ryw bryd i'w gyd-weithwyr, a'r rhai oeddent yn yr un fargen ag ef yno, y penderfyniad yr oedd wedi dyfod iddo. Parodd y newydd dristwch mawr iddynt hwy, oblegyd yr oedd wedi myned yn ddwfn iawn i'w serchiadau, heblaw eu bod bellach yn dechreu ei ystyried yn anrhydedd nid bychan arnynt fod y fath un yn gydweithiwr â hwynt. Gellir casglu y teimladau yr oeddent oll ynddynt, oddiwrth yr hyn a ddywedir gan un o honynt, Mr. Robert Williams, Minffordd, Ffestiniog, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o'i hanes tra yn Llanrhochwyn:—" Yn ei symmudiad yr oeddwn yn teimlo colled ddirfawr, oblegyd yr oedd wedi fy ngorchfygu yn llwyr, ac wedi ennill lle mor uchel yn fy serchiadau fel na oddefwn yr awgrym lleiaf o sarhad neu ddiystyrwch arno. Yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyn, sef yn y flwyddyn 1827, aethum i Gymmanfa y Bala. Yno y gwelais ef gyntaf ar ol ei ymadawiad o Lanrhochwyn. Yn yr oedfa y prydnawn cyntaf, mi a glywn y cyhoeddwr yn enwi John Jones, Llanllyfni, i bregethu am chwech boreu dranoeth. Yn y fan tarawyd