Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fi â phryder—eymmysgedig o lawenydd ac ofn. Yr oeddwn yn bryderus yn ei achos trwy y nos. Aethum i'r Green yn brydlawn erbyn chwech, fel pe buasai ar fy llaw i wneyd llawer o help iddo; a phob tro y clywn yr hwn oedd yn gweddio, yn nechreu yr oedfa, yn gofyn rhywbeth ar ran y brodyr oedd i sefyll i fynu i gyhoeddi yr efengyl, yr oeddwn i yn troi y cwbl at John Jones. Ar ol y weddi, dacw John Jones yn ymddangos. Yr oedd hyd yn nod yr olwg arno yn hawlio serch y dorf fawr yn y fan. Cymerodd yn destyn, Psalm xxxii. 6. Yr oeddwn yn crynu bellach o bryder yn ei gylch. Ond fel yr oedd yn myned yn mlaen yr oedd fy mhryder yn cilio, wrth weled a chlywed y gynnulleidfa yn dechreu cynhyrfu. Cynnyddodd y cynhwrf; dechreuodd y dorf drwyddi a siglo dan ei weinidogaeth; ac o'r diwedd torodd allan yn orfoledd mawr. O hyny allan hyd ddiwedd y Gymmanfa fe grybwyllodd pob un o'r gweinidogion a bregethodd am y bregeth neillduol y bore." Y mae y dyfyniad hwn yn ein harwain gryn lawer yn mhellach yn ei hanes na'r amser yr ydym eto wedi cyrhaedd ato, ond yr ydym yn ei ddodi i lawr yma am ei fod yn gwasanaethu i ddangos y teimladau cynhes a goleddid tuag ato gan ei gyd-weithwyr, ac felly y chwithdod oedd yn eu meddyliau wrth feddwl ei fod yn ymadael â hwynt. Yr un teimlad oedd yn yr holl gyfeillion y daethai i gyfarfyddiad â hwynt trwy holl gylch Cyfarfod Misol, Sir Feirionydd.

Yr oedd yr amser, pa fodd bynag, iddo symud yn nesau. Yr oedd ganddo gyhoeddiad i fod am Sabbath yn Nghaernarfon, Rhagfyr 29, 1822, lle y pregethodd heb gymmaint o oleuni a blas i'w feddwl ei hun nac o effaith ar y gynnulleidfa ag oedd gyffredin iddo y pryd hyny. Pregethodd yn Nhalsarn am hanner dydd drannoeth ar Rhuf. viii. 3, ac yn Llanllyfni y nos ar Rhuf. viii. 4. Dyma y tro cyntaf iddo bregethu yn Nhalsarn a Llanllyfni, ac yr oedd rhyw beth newydd ac annghyffredin iawn i'r cynnulleidfaoedd yn y ddwy bregeth. Ar ol hyn efe a ddychwelodd i Ddolyddelen; ac, yn niwedd yr wythnos ganlynol, fe symmudodd i Dalsarn. Yr oedd y Sabbath wedi hyny, yr ail Sabbath yn y flwyddyn 1823, yn pregethu yn Nhalsarn y boreu, ac yn Llanllyfni yn y prydnawn ar Rhuf. viii. 2; a thrachefn yn Llanllyfni yn yr hwyr ar 1 Tim. iii. 16. Yr oedd y bregeth yn yr hwyr yn un hynod o lewyrchus. Ddydd Llun fe ddechreuodd ar ei waith yn y Gloddfa. Mae un oedd yn gweithio yn yr un Gloddfa ag ef, Mr. William Owen, yn awr o'r Penbrynmawr, Llanllyfni, yn rhoddi i ni yr adgofion can-