Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lynol am dano pan y daeth gyntaf i Dalysarn, a phan yn gweithio yn y Chwarel:—"Yr ydwyf yn cofio yn bur dda yr olwg gyntaf a welais arno gyda Mr. Griffith Williams, Goruchwyliwr y Gwaith. Daeth atom i'r Chwarel yn ddyn ieuanc, tâl, gwridcoch, glandeg, yn gwisgo coat o frethyn glâs a gwyn, gwasgod ddu, hancets sidan India coch-tywyll, clôs woollen-cord, hosanau mawr brethyn llwyd,—yr olwg harddaf a welais ar ddyn ieuanc erioed. Tybiais yn fy meddwl mai mab rhyw ffarmwr mawr ydoedd. Ychydig iawn a siaradai, dim ond ambell air a ofynai Mr. Williams iddo. Yr oedd rhyw olwg ryfeddol o ddwysder a difrifwch i'w weled ynddo tebyg fel pe buasai yn dewis cael llonydd." Yr oedd hyn, ni a dybygem, cyn iddo fyned yno i weithio, ac, fe allai, yn amser ei ymweliad â Thalsarn o flaen Cymmanfa Caernarfon. Y mae Mr. William Owen, pa fodd bynnag, yn myned rhagddo:—" Ar ol dyfod yno i weithio, yr oedd y bonc lle yr oedd yn gweithio yn fy ngolwg. Hollti llechau y byddai. Ychydig iawn fyddai yn gymdeithasu ar y cyntaf gyda neb yn y gwaith; ond yr oedd rhyw ddifrifwch a sobrwydd ynddo oedd yn argyhoeddiadol i bawb. Cyfodai yn aml yn yr wythnos yn sydyn, heb ddywedyd un gair wrth ei gyd-weithiwr, ac âi i ryw hen waith adfeiliedig, o'r enw Pwll-y-Fanog, neu i lân yr afon o dan Gloddfa'r Coed, ac arosai yn y naill le neu y llall, weithiau, am oriau, yn cerdded yn ol ac yn mlaen. Yn fynych, wedi myned felly, ni welid mo hono yn y gwaith drachefn y diwrnod hwnw. Am ei bregethau, y troion cyntaf y daeth i Dalsarn, o'r wythfed o'r Rhufeiniaid y byddai yn pregethu braidd yn wastad. Pregethodd, yn neillduol, amryw bregethau ar y drydedd adnod o'r bennod hono. Gofynodd un o'i gydweithwyr iddo, pa fodd yr oedd yn pregethu cymmaint ar yr wythfed o'r Rhufeiniaid. Atebodd yntau, 'Oh, y mae yno ddigon o le i mi am fy oes, ac i hòno fod yn un hir hefyd.'"

Can gynted ag y sefydlodd yn y gymmydogaeth fe ddechreuodd ymroddi o ddifrif i wneuthur yr hyn a allai yn mhlaid yr achos, crefyddol yn Nhalsarn a Llanllyfni. Sefydlodd gyfarfodydd canu yr y ddau le; a byddai yr ieuenctyd yn lluoedd yn feibion ac yn ferched yn cyrchu iddynt, ac yn cael pleser mawr ynddynt, ac yntau yn' eu canol wrth ei fodd yn eu harwain ac y neu dysgu. Yr oedd rhyw sobrwydd a difrifoldeb, yr un pryd, yn ei holl ymddangosiad, ag oedd yn gosod rhyw fath o'i arswyd ar bawb o honynt, fel na welid un duedd i ddim tebyg i gellwair, anmhriodol i'r gwaith