Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/104

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysegredig yr oeddent gydag ef, ar neb o honynt. Yn mhlith ereill o'r ieuenctyd a gyrchent yn gyson i'r Cyfarfodydd canu, ac a gymmerent ddyddordeb mawr ynddynt, yr oedd un ferch ieuanc, nodedig o brydweddol, ac yn ymddangos yn llawn bywiogrwydd ac yni a theimlad. Fe'i tarawyd ef â rhyw deimlad, dieithrol iddo ei hunan, pan y disgynodd ei lygaid arni y tro cyntaf; a rhywfodd, megis yn ddiarwybod iddo ei hunan, byddai yn cael ei lygaid arni braidd yn wastad, a'i llygaid hithau, fe ganfyddai, yn gwylio yn lled fanwl arno yntau. Yr ydoedd wedi bod yn gymundeb felly rhyngddynt a'u gilydd am beth amser cyn i un gair basio rhyngddynt erioed, oddieithr yn ol yr arferiad o ysgwyd llaw â'r pregethwr yn nhŷ y Capel. Ryw noswaith, pa fodd bynnag, fe ofynodd, fel ar ddamwain ac heb arwyddo fod dim yn ei deimlad ef tuag ati, i'r teulu oedd yn cadw Tŷ y Capel, yn Nhalsarn, pwy ydoedd. Dywedasant wrtho mai Fanny Edwards ydoedd, merch Mr. Thomas Edwards, Taldrwst, amaethwr yn y gymmydogaeth, ac Arolygwr Chwarel lechi, Cloddfa'r Lôn, Nantlle. "O," ebe yntau, "y mae digon o fywyd ynddi hi," gan ymddangos fel pe na buasai yn meddwl dim am dani. Y noswaith hono, neu yn fuan iawn wedi hyny, fe wnaeth ryw gyfeiriad ati wrth ei gyfnither a'i gŵr, y rhai y llettyai gyda hwynt." Ië, yn wir, John Jones," meddai Mr. Griffith Williams, "dyna ddefnydd gwraig ragorol i chwi. Ni wn i ddim yn mha le y caech chwi un well." Yr oedd brawd crefyddol o'r gymmydogaeth yn dygwydd bod yn y tŷ, ar y pryd, ac yn clywed yr ymddyddan. Appeliai Mr. Griffith Williams at hwnw am gadarnhâd i'r hyn a ddywedid ganddo am y ferch ieuanc, ac yr oedd y brawd hwnw mor uchel a Mr. Griffith Williams yn ei ganmoliaeth iddi, ac yn dygwydd bod yn gwybod mwy am dani nag ef. Ychydig a dybid ganddynt hwy fod y wyryf ieuanc, er ys amryw wythnosau bellach, wedi lladrata calon yr un y canmolent hi wrtho. Wedi peth amser, terfynodd yr ymddyddan, heb iddo ef awgrymu dim iddynt fod ganddo un meddwl am dani yn y cyfeiriad a gymhellid arno ganddynt hwy. Drannoeth, pa fodd bynnag, fe aeth at y brawd oedd yn dygwyddo bod yn ei letty y noswaith flaenorol, ac a ddadguddiodd iddo ei deimladau, a'r pryder yr oedd ei feddwl wedi bod ac yn parhau ynddo yn nghylch y peth; ac a geisiodd ganddo fyned ati drosto i ofyn iddi, a fyddai boddlawn ganddi ddal cyfeillach ag ef, gyda golwg ar briodi. Nid oedd y brawd hwnw yn gwybod dim am ei theimladau hi. Ond y gwirionedd oedd, fod ei chalon hi arno