Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn iddi ei weled erioed. Y tro cyntaf y clybu hi sôn erioed am dano oedd yn Nghymanfa Caernarfon-y Gymanfa y cyfeiriasom ati eisoes. Yr oedd hi, y pryd hwnw, mewn ysgol yn Nghaernarfon. Y noswaith hono, soniai ei mam-yn-nghyfraith (yr oedd ei thad wedi ail briodi) wrthi, fod pregethwr ieuanc yn yr un tŷ a'i thad a hithau yn yfed tea y prydnawn hwnw, y dyn harddaf a welsai hi a'i llygaid erioed, a bod ei thad wedi ei hoffi yn fawr. Tarawodd rhywbeth, meddai hi, yn ei meddwl yn y fan mai hwnw fyddai ei gŵr hi. Ni chafodd hi un olwg arno y pryd hyny yn Nghaernarfon. Eithr yr oedd y meddwl yn ei dilyn, heb fod ganddi unrhyw sail yn y byd iddo ond ei dychymyg ei hunan, mai y gŵr ieuanc y clywsai am dano fyddai ei gŵr hi. Yn y Rhagfyr canlynol, y nos Lun cyntaf wedi y Nadolig, pan y daeth John Jones am y tro cyntaf i Lanllyfni i bregethu, nis gallodd hi fyned i'r Capel mewn pryd i gael ond ychydig o'r bregeth. Nid aeth i mewn i'r Capel pan y cyrhaeddodd ato, ond arosodd wrth y drws i wrando, fel na chafodd ei weled y tro hwn ychwaith. Ond pan gyntaf y clywodd ei lais fe gryfhai y dychymyg yn ei meddwl mai efe fyddai ei gŵr hi. Wedi iddo ymsefydlu yn Nhalsarn, cyn crybwyll gair gan neb wrthi, yr oedd y peth yn sicrwydd hollol yn ei meddwl hi. Yr oedd ei theimladau, yn y cyfamser, yn dra rhyfedd; a'i bresenoldeb, a'i edrychiad, ac yn neillduol ei lais, yn effeithio yn ddirfawr arni. Fel, pan daeth y brawd a anfonasid gan John Jones ati, yr oedd hi yn hollol barod i'w dderbyn, ac ni phetrusodd fynyd yn nghylch yr atebiad a roddai iddo. Arwyddodd ei chydsyniad mwyaf calonog yn hollol rydd a dirodres. Wedi cyfeillachu â'u gilydd ychydig droion, ac wedi cael cydsyniad y tád, cytunasant i briodi. Cytunwyd felly rhwng pedwar a phump ar y gloch, ryw brydnawn gwaith teg tua diwedd Ebrill. Gwnaeth yntau y cwbl yn hysbys, yn ol yr hyn oedd arferedig y pryd hyny, yn y Cyfarfod Eglwysig y noswaith hono, pan oedd y ferch ieuanc ei hunan yn bresennol, gan ddymuno ar i'r holl frawdoliaeth gymmeryd ei achos gyda hwynt at orseddfaine y gras a gweddïo am fendith y Goruchaf arno yn yr amgylchiad. Yr oedd efe i geisio trwydded (License) at briodi y Sadwrn canlynol, yn Nghaernarfon, ar ei fynediad trwodd i Sir Fon, lle yr ydoedd i bregethu y Sabbath. Ond erbyn myned yno ni chaniateid trwydded iddo, gan fod y ferch yn rhy ieuanc. Nid ydoedd eto yn llawn deunaw mlwydd oed. Beth a wnaeth yntau, yn y fan, ond ysgrifenu rhybudd am ostegion priodas rhyngddynt, gan ei ddodi yn