Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

O'I BRIODAS HYD EI DDERBYNIAD YN AELOD O'R GYMDEITHASFA: 1823—1824.

Sefyllfa newydd—gofal am Addoliad Teuluaidd—Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon pan yr ymunodd efe ag ef—Robert Jones, Tŷ Bwleyn—Michael Roberts, Pwllheli—John Jones, Tremadoc—James Hughes, Lleyn—William Roberts, Clynog—Daniel Jones, Llanllechid—William Lloyd, Caernarfon—Cyfarfod Misol yn Nefyn—taith gyntaf John Jones i'r Deheudir—Cymdeithasfa Llanbedr—rhoddi heibio weithio yn y Gloddfa ymgymmeryd â Masnach—ymroddi yn llwyrach i'r Weinidogaeth—Cyfarfodydd yr Ysgolion Sabbothol—Cymdeithasfa Caernarfon—yr ymddyddan ag ef ynoy Parch. Ebenezer Morris—ei dderbyniad i'r Gymdeithasfa.

Y MAE John Jones yn awr wedi dyfod i sefyllfa newydd a thra phwysig, ac ar unwaith yn dechreu ymdeimlo â'i gyfrifoldeb. Gwnaeth ei feddwl i fynu yn ddioed, pa beth bynnag arall a fyddai yn ddiffygiol, na chai addoliad teuluaidd byth ei esgeuluso yn ei dŷ ef; ac os bendithid ef â phlant, y cyflwynid hwynt o'r bru i grefydd, ac yr ymdrechai a allai ef, yn ol ei amgylchiadau, i'w "maethu yn addysg ac yn athrawiaeth yr Arglwydd." Ac y mae ei briod yn tystio nad aeth gymmaint ag unwaith oddicartref, yn ysbaid y pedair-blynedd-ar-ddegar-hugain y buant byw gydâ'u gilydd, heb gynnal addoliad teuluaidd, er y byddai yn fynych yn cychwyn yn blygeiniol iawn; a mynai bob amser gael yr holl blant, wedi iddynt gael plant, o'r hynaf hyd yr ieuengaf, i gyd-ymostwng ger bron Duw. Os byddai yn cychwyn cyn dydd, fel y byddai raid iddo yn aml, byddai raid codi y cwbl o'u gwelyau am adeg y ddyledswydd, tra y caniateid iddynt fyned yn ol eilwaith, os tueddent at hyny, i orphwys hyd yr awr arferol i godi. Ac ni oddefai iddynt fyned i orphwys y nos, pa mor hwyr bynnag a fyddai, hyd nes y byddai y ddyledswydd drosodd. Ac yr ydoedd bob amser yn y gwasanaeth fel dyn yn ystyried ac yn teimlo ei fod yn addoli y Brenhin, Arglwydd y lluoedd; ac ar adegau byddai effeithiau anarferol ar yr holl deulu oddiwrth ei weddiau. Yn fynych iawn byddai y