Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymmydogion, er mwyn yr hyfrydwch o wrandaw arno, yn cynnull i'r tŷ ar adeg yr addoliad teuluaidd, ac yn teimlo y byddai ei weddïau yn ei deulu ei hun, weithiau, yn fwy effeithiol na'i bregethau mwyaf rhagorol. Wedi iddynt briodi, fe adeiladodd perchenog chwarel Talsarn dŷ iddynt gerllaw y Capel, lle y dechreuasant fasnachu ychydig. Yr oedd gofal y shop yn gwbl ar Mrs. Jones, ac yntau yn gweithio, fel cyn priodi, yn y Gloddfa, ac yn dilyn ei gyhoeddiadau yn ffyddlawn ar y Suliau. Teimlodd ei hunan ar unwaith yn ymgartrefu yn y Sir: ac yr oedd yn anmhosibl iddo beidio canfod fod gwerth mawr yn cael ei osod ar ei wasanaeth, a'i fod yn raddol yn ymsefydlu yn ddwfn iawn yn serchiadau yr holl frawdoliaeth yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd Sir Gaernarfon y pryd hwnw, ac am flynyddoedd lawer wedi hyny, yn un Cyfarfod Misol, ac amryw wŷr grymus a dylanwadol yn perthynu iddo, a'i awdurdod yn hollol ar yr eglwysi oeddent o fewn ei gylch, tra ar yr un pryd, yr oedd ffyddlondeb perffaith iddo yn nheimladau yr aelodau yn gyffredinol. Buasai yn dda genym pe gallasem roddi dysgrifiad lled fanwl o'r Cyfarfod Misol, ar yr adeg y daeth John Jones i undeb âg ef: ond nid ydyw y defnyddiau at hyny yn ein cyrhaedd, a byddai ymgais at ddim o'r fath yn beth cwbl ofer, gan nas gwyddom am neb yn awr yn fyw a allai roddi nemawr gynnorthwy i ni. Y mae yr holl genhedlaeth hono agos wedi myned ymaith, a'r ychydig sydd yn aros mewn gormod gwendid i ddysgwyl dim felly oddiwrthynt. Y cwbl, gan hyny, yr amcanwn ni ato, fydd rhoddi ychydig grybwylliadau am y prif ddynion a berthynent iddo y pryd hwnw, fel y gallo y darllenydd adnabod i ryw raddau y rhai yr oedd efe yn awr wedi ei ddwyn i gysylltiad uniongyrchol â hwynt, a chydâ y rhai y parhaodd i lafurio yn ffyddlawn ac yn gysurus ac yn llwyddiannus, hyd nes y daeth angeu i'w hysgar oddiwrth eu gilydd. Ac y mae y cwbl gyda'u gilydd yn awr yn yr "Anneddle lonydd "—"yn gorphwys oddiwrth eu llafur."

Yr hynaf, ac ar ryw ystyr y parchedicaf, o fewn y cylch newydd hwn, oedd Mr. Robert Jones, Tŷ Bwlcyn, gynt o Roslan. Yr oedd efe erbyn hyny yn ddeunaw mlwydd a thriugain oed, ac nid oedd yn gallu dilyn y Cyfarfodydd Misol mor gyson, na chymmeryd cymmaint rhan ynddynt, ag a arferasai unwaith. Ac eto, pa bryd bynnag y byddai yn bresennol, yr oedd yr arweiniad yn disgyn yn naturiol i'w ddwylaw. Yr oedd efe wedi adnabod, ac wedi bod mewn undeb â Methodistiaeth, er pan nad oedd ond ychydig gydag ugain mlynedd wedi myned heibio