Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiar gychwyniad yr achos yn Sir Gaernarfon, ac yr oedd felly wedi ei weled yn cynnyddu, o'i fychandra a'i eiddilwch cyntaf, i'r maintioli a'r nerth a berthynai iddo, ar y tymhor y cyfeiriwn yn awr ato; ac yr oedd yn gwbl naturiol i'r holl frawdoliaeth edrych i fynu ato ef megis tâd iddynt oll. Ond yr oedd ynddo, heblaw hyny, liaws mawr o gymhwysderau a'i haddasent yn arbenig i gymmeryd y flaenoriaeth gyda'r gwaith. Yr oedd, trwy ymroddiad a llafur, yn ngwyneb llawer o anfanteision, wedi cyrhaedd graddau helaethach o ddysgeidiaeth a gwybodaeth gyffredinol na'r nifer amlaf o lawer o'i gydoeswyr a'i gydlafurwyr; ac yr oedd hyny ynddo ei hunan, yn neillduol y pryd hwnw, yn allu mawr iddo. Yr ydoedd hefyd yn ŵr tawel, amyneddgar, synwyrol, yn dra gochelgar-yn edrych bob ffordd—cyn gwneyd ei feddwl i fynu ar unrhyw gwestiwn dyrys neu amheus a ddygid ger ei fron; ond, wedi gwneyd ei feddwl i fynu, yn dra phenderfynol ac anysgogadwy-ac mor onest a didderbyn wyneb, fel, os byddai angenrheidrwydd am hyny, nad oedd yn ofni gwrthwynebu neb. Ac eto pan y teimlai rwymau i hyny, yr oedd ganddo ryw ddull i'w wneuthur, ag oedd yn ei gadw rhag tramgwyddo neb. "Ni welais i," meddai un hen flaenor call wrthym am dano, "neb erioed a chymmaint o ysbryd barn ganddo a Robert Jones, oddieithr, hwyrach, Ebenezer Morris, a Richard Jones, Coedcae (Wern); ac nid wyf yn meddwl ei fod yn naturiol yn gymmaint yn yr un o honynt hwythau ag yn Robert Jones." Yr oedd Mr. Charles o'r Bala, yr ydym yn gwybod, yn rhoddi y pwys mwyaf ar farn Mr. Robert Jones ar bob cwestiwn yn dal cysylltiad a'r Cyfundeb, ac ni byddai byth yn foddlawn ysgogi gydâ dim heb ei gael ef o'i blaid. Sicrhawyd i ni gan Mr. Michael Roberts, mai llythyr i Mr. Robert Jones, ar ol rhyw araeth ofnadwy (dyna y gair) gan Mr. Elias, yn Nghymdeithasfa Pwllheli, yn 1809, a ennillodd feddwl Mr. Charles i gydsynio â dymuniad cyffredinol y Cyfundeb i gael neillduo gweinidigion o'u plith eu hunain i'r holl waith. Arafaidd a digynhwrf ac undônawl braidd, ydoedd Mr. Robert Jones yn ei ddull yn pregethu, fel nad oedd y lliaws yn gofalu dim am dano; ac eto yr oedd y rhai callaf a'r rhai duwiolaf, braidd yn mhob cymmydogaeth, nid yn unig yn gallu dygymmod âg ef ond yn dra hoff o wrandaw arno. Yr oedd ei ddoniau ef, pa fodd bynnag, yn llawer mwy cyfaddas at y cyfarfodydd eglwysig a'r cynnadleddau yn y Cyfarfodydd Misol a Chwarterol nag at bregethu. Yr oedd yn meddu gallu annghyffredin