Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn ymddyddan, ac felly yn arbenig pan yn ymddyddan â dynion am eu profiadau ysbrydol. Heblaw ei dduwioldeb diddadl ei hunan, a'i gydnabyddiaeth fanwl a helaeth â'r ysgrythyrau sanctaidd ac âg ysgrifeniadau amryw o'r hen awdwyr goreu ar grefydd brofiadol, yr oedd rhyw neillduolrwydd hynod yn ei ddawn ag a wasanaethai er mantais annghyffredin iddo yn y cyfryw ymddyddanion. Ni byddai byth ball arno am ryw gymhariaeth neu ddammeg neu chwedl neu hanesyn, er egluro a chymhwyso y gwirioneddau a fyddent dan sylw ganddo; ac yr oedd y rhai hyny bob amser mor naturiol a phriodol, fel pe buasai y pwnc a'r chwedl wedi eu gwneyd ar gyfer eu gilydd. Yr oeddent yn hollol gartrefol,-isel ac agos at amgyffred pawb, ond ni byddai byth yn disgyn at ddim annghoeth neu ddim y gallasai y chwaeth buraf ei annghymmeradwyo. Yr oedd ei sylwadau, hyd yn dra diweddar, yn fyw yn nghôf lliaws o'r hen bobl; ac ni byddai odid Gyfarfod Misol yn Sir Gaernarfon, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac yn llawer diweddarach na hyny, yn myned heibio, na byddai Mr. John Jones, Tremadoc, neu Mr. William Roberts, Clynog, neu ryw un arall o'r hen frodyr, yn adgoffa rhai o honynt; ac yr oedd yn anmhosibl eu clywed heb deimlo eu bod yn eiddo i un oedd yn meddiannu adnabyddiaeth helaeth iawn o'r natur ddynol, a medrusrwydd llawer iawn mwy nag sydd gyffredin hyd yn nod i'r rhai galluocaf o'r cyfryw, i ddwyn ei feddwl ei hunan i gyffyrddiad byw â meddyliau ei gyd-ddynion.

Gwrthododd yn gwbl gymmeryd ei ddewis i'w ordeinio yn amser y neillduad cyntaf yn mhlith y Methodistiaid. Yr oedd ganddo ef law arbenig, fel y gwelsom, yn nygiad y neillduad hwnw o amgylch—yn wir, oddieithr Mr. Jones, Dinbych, a Mr. Elias, yn y Gogledd, a Mr. Ebenezer Morris, yn y Deheu, y mae yn amhëus a oedd neb arall a chymmaint llaw; ac yn y diwedd, dybygid, mai efe a lwyddodd i gael gwneyd y peth heb rwygo y Cyfundeb. Yr oedd efe ei hunan, ar y pryd, yn chwech a thriugain oed, yn ddeng mlynedd hŷn na Mr. Charles, ac yn ystyried fod ei ddydd gweithio braidd drosodd: ond y prif reswm ganddo oedd, fod yn y Cyfarfod Misol amryw frodyr ereill ag y gwyddai oeddent yn llawer mwy poblogaidd nag ef yn y Sir ac yn y Cyfundeb—ac yn enwedig ni allasai oddef y meddwl am dderbyn y fath anrhydedd tra yr oedd Mr. John Jones o Edeyrn, yr hwn oedd yn ŵr mor enwog, ac yn pregethu ers dros saith mlynedd ar hugain, yn cael ei esgeuluso. Yr oedd rhyw wrthwynebiad, ar y pryd, i neillduad