Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwbl. Ond yn haf y flwyddyn 1834, fe aeth yn llawer gwaeth, yn enwedig pan ar ymweliad à Liverpool a Manchester, yn Awst y flwyddyn hono. Mae yn gofus iawn genym am y cyfeiriad arswydus a gymmerodd ei afiechyd mewn Cyfarfod Misol, yn Rhydfawr, yn Arfon, pan oedd yn dychwelyd o Liverpool y tro hwnw; ac yn neillduol, yn Nghymdeithasfa Pwllheli, Medi 10fed a'r 11eg, yn mhen ychydig wythnosau ar ol hyny. Yr oedd Mr. William Williams, Aberteifi, a Mr. Evans, New Inn, i fod yn pregethu yn Four Crosses y nos o flaen y Gymdeithasfa yn Mhwllheli. Aeth yntau yno i wrandaw ar Mr. Evans. Gyda ei fod yn nhŷ y Capel, a deall fod Mr. William Williams yno, fe ddywedodd, "Wel, William Jenkins (cyfaill Mr. Evans), chwi gewch chwi ddechreu; a dechreuwch yn fyr ac i'r pwrpas. Chwi gewch chwithau, William Williams, bregethu am hanner awra phum mynyd; a Mr. Evans bregethu am awr a chwarter. Dyna'r trefniad, a rhaid i chwi gadw ato." Fe ddechreuodd Mr. William Jenkins yn ol y trefniad. Ond yr oedd Mr. William Williams yn amgylchu cryn lawer, ac yn ymddangos yn dra annhebyg o gadw at y trefniad, ac yntau o dan y pulpud, yn dra anesmwyth. O'r diwedd fe waeddodd allan, "Come to the point, man; Come to the point." Fe darfwyd meddwl y pregethwr fel na allodd fyned yn mlaen ond am ychydig amser, ac fe roddes y lle yn fuan i Mr. Evans. Yr oedd yntau, erbyn hyn, wrth ei fodd; yn canu y pennill a roed allan gyda hwyl, ac yn ymbarotoi i wrandaw ar ei hen gyfaill. Pan ddarllenodd Mr. Evans ei destyn, dygwyddodd fod yn hen destyn iddo, a glywsid o'r blaen ganddo ef, ac ar unwaith gwaeddodd—"Pw! Pw! hen bregeth glywais i er ys blynyddoedd; wedi colli ei dannedd bob un; all hi frathu neb;" ac allan ag ef, a rhyngddo a chartref, heb aros dim. Drannoeth, yn y Gymdeithasfa, yn Nghyfarfod y pregethwyr, ar ol adrodd ei brofiad ei hunan, oddiar weddi Hezeciah, a hyny mor doddedig ac effeithiol fel nad oedd yno neb heb deimlo, nac odid lygad sych yn y lle, ymddangosai ar unwaith fel yn colli y cwbl: "Rhaid i mi fyned," meddai; "y mae gofal y Sassiwn yma i gyd arnaf fi. Chwi gewch chwi aros yma hyd chwarter i ddeuddeg dim un mynyd yn hwy—ac yna chwi gewch gystal ciniaw ag a gawsech yn nhŷ Esgob Bangor. Bangor? Bangor? beth ydyn' nhw yno ?" Yr oedd cyfeillion Bangor, er ys dwy flynedd cyn hyny, wedi llwyddo, yn bur groes i'w feddwl ef fel y cyffredin yn Lleyn ac Eifionydd, i gael y Gymdeithasfa yno, yn ei thro, fel yr ydoedd yn myned i Gaernarfon