Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Phwllheli; a dyna, dybygid, y rheswm am y cyfeiriad hwn. Ar hyny aeth allan yn llawn prysurdeb, ond cyn pen deng mynyd, tra yr ydoedd Mr. John Jones, Tremadoc, yn cyfeirio at y brodyr oeddent yn bresennol, gan ofyn, "Beth a wnawn ni iddo, gyfeillion bach? Chwi welwch ei fod wedi myned yn bur anhwylus; ac, yn wir, y mae o yn gryn flinder i ni;”-dyna guro arswydus ar y drws, a chlywid ei lais ef yn gwaeddi, "Dowch allan oddiyna. Beth ydych chwi yn wneyd yna? Gwrando ar John Jones, Tremadoc, yn dyweyd fy hanes i?" Ond daeth rhyw un yno i'w gymmeryd of ymaith, fel y cafwyd hamdden i fyned yn mlaen â gorchwylion y cyfarfod; ac ymddyddanwyd â thri o frodyr, y rhai ydynt eto yn fyw, Mr. Robert Williams, Enlli, Mr. Thomas Hughes, Caernarfon, a Mr. Griffith Jones, Tre'r Garth, gyda golwg ar eu derbyn yn aelodau o'r Gymdeithasfa. Yn y Cyfarfod nesaf, am ddau ar y gloch, pan oedd y Pregethwyr a'r Blaenoriaid gyda'u gilydd, can gynted ag yr oedd y weddi yn nechreu y Cyfarfod drosodd, dyna efe yn dechreu holi y Cadeirydd, Mr. John Hughes, Sir Drefaldwyn, yn nghylch rhyw benderfyniad a wnaethid yn y Gymdeithasfa flaenorol yn y Bala, ac a annghymeradwyid yn fawr ganddo ef. "Yr oeddech chwi yno eich hunan," meddai y Cadeirydd, "paham na buasech chwi yn ei wrthwynebu o yno? Fe gafodd pawb bob chwareu têg i draethu eu meddyliau arno." "Nid ydyw o un budd," meddai Dr. Hughes, Pwllheli, "i chwi ddechreu yinresymu àg ef.” "Nag ydyw, a ydyw, Dr. Hughes? fe wyddoch chwi yn dda am danaf fi, nad ydyw o un use i'r un o honyn' nhw ddechreu ymresymu â mi. Nid ydwyf fi yn malio dim yn yr un Pab o Fôn, na Chardinal o'r Fronheulog chwaith." Erbyn hyn yr oedd y lle yn gyffro trwyddo. Aeth Mr. James Hughes, Llëyn, ato, ac a ymaflodd ynddo, gan ddywedyd, "Michael bach, dowch gydâ mi." Ar hyny gwaeddodd yntau, “Beth! Iago, yr hen frawd anwyl, yn myned i ddal Michael ! 'tydi, ddyn '— Iago 'fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod, y rhai oedd felus genym gyd-gyfrinachu, ae a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.'" Ond yr ocdd efe yn troi yn nwylaw Mr. James Hughes gyda'r fath gyflymdra, fel yr oedd ar ei golli o'i afael, pan y daeth un o'r hen flaenoriaid, Mr. Richard Thomas, Tanllan, Tydweiliog, i'w gynnorthwyo. Ar hyny gwaeddodd yntau drachefn, "Wel! o bawb! yr hen ffrynd Richard Thomas, yn helpu Iago i ddal Michael." Ond yr oedd y ddau yn methu ei feistroli. Ar hyny, dacth brawd arall yn mlaen, i'w cym-