horth. "Ah!" meddai yntau, "nid ydwyf i yn synu dim ato fo, gwr y —— —— Nid ydyw hyn ond yr un peth ag a allaswn ddysgwyl oddiwrtho fo. Ewch a fi i ffordd. Nid oes arnaf fi ddim eisiau bod gyda chwi." Ac yna, â'r llais oedd wedi bod gannoedd o weithiau yn treiddio trwy deimladau ei wrandawyr, fe waeddodd allan, "Ffarwel i chwi ffarwel i chwi-ffarwel i chwi am dragywyddoldeb." Ar hyny fe dynodd y drws yn ddychrynllyd ar ei ol. Yr oedd teimladau pawb erbyn hyn yn annysgrifiadwy. Nid oedd neb braidd yn edrych fel efe ei hunan; yr oedd amryw wedi tori allan i wylo; a phawb yn arwyddo teimlad dwys oddieithr Mr. Evans, New Inn. Yr oedd efe yn chwerthin ei oreu. Yr oedd y cyfeiriad at y Pab a'r Cardinal wedi effeithio arno ef, fel ag y gallesid tybied nad oedd wedi gweled na chlywed dim arall. Ymddangosai y Gymdeithasfa fel wedi ei dyrysu, ac na byddai bosibl gwneyd dim. Ond cododd Mr. Elias ar ei draed, gan feddiannu ei hunan yn berffaith, a dywedodd ychydig eiriau yn ei ddull ei hunan—a hyny gyda'r fath ddylanwad fel y dychwelodd pob peth i'w le ar unwaith, ac nad oedd yno neb yn ymddangos fel yn teimlo fod dim cyffrous neu annghysurus wedi dygwydd; ac aed yn mlaen at orchwylion y Cyfarfod yn gwbl hamddenol. Cadwyd Mr. Michael Roberts yn y tŷ y diwrnod hwnw. Y diwrnod canlynol yr oedd gyda'r pregethwyr ar y stage, yn edrych yn ddigon tawel; a rhoddes bennill allan yn dra effeithiol, i'w ganu yn niwedd un o'r oedfaon. Ond myned rhagddo a wnaeth yr anmhariaeth arno fel y bu raid o'r diwedd ei gaethiwo yn gwbl, a gresyn mawr na wnelsid hyny yn gynt. Wedi peth amser fe'i hadferwyd i'w bwyll yn hollol: ond yr oedd ei feddwl yn parhau yn isel iawn, a'r hen afiechyd wedi dychwelyd eilwaith i'w bibellau anadlu. Cawsom ni fantais fawr i'w adnabod yn fanylach ac i gymdeithasu llawer âg ef, yn y cyfnod hwnw, yn ystod y tair blynedd o'n harosiad yn Mhwllheli. Ac ni a edrychwn byth ar hyny fel un o ragorfreintiau penaf ein hoes. Byddai yn y Capel yn gyson, ar y Sabbath a dydd gwaith, os gallai mewn un modd gan ei iechyd, er na cheid ganddo byth wneyd dim yn gyhoeddus mewn un cyfarfod, oddieithr, weithiau, y dywedai air yn y Cyfarfod eglwysig. Pa bryd bynnag y dywedai air felly byddai rhywbeth anarferol o nerthol ynddo. Yr oedd y pryd hyny fel bob amser yn cymmeryd y dyddordeb mwyaf yn hanes yr achos yn mhob man; a'r hyn a'n synodd ni ganwaith yn ei gymdeithas oedd, ei gydnabyddiaeth fanwl â blaenoriaid, ac âg aelodau
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/115
Prawfddarllenwyd y dudalen hon