Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei gylch; ac yr oedd wedi ei gynnysgaeddu â chôf mor nerthol fel y gallesid tybied mai prin y byddai yn annghofio dim. Yr ydym wedi bod yn gofidio gannoedd o weithiau na buasem wedi ysgrifenu, ar y pryd, y manylion am lawer amgylchiad yn hanes y Cyfundeb, a adroddwyd i ni ganddo ef, ac nad oes, yr ydym yn ofni, neb yn awr yn fyw a allai eu cyflenwi.

Wedi yr anmhariaeth ar iechyd a meddwl Mr. Michael Roberts, fe lithrodd y flaenoriaeth yn y Cyfarfod Misol yn hollol i ddwylaw Mr. John Jones, Tremadoc. Nid oedd efe ond pregethwr bychan iawn, ac yn ein bryd ni, yr oedd heb gael allan erioed lle yr oedd ei nerth mwyaf yn y pulpud. Yr oedd ei sylwadau arweiniol i'r testyn, neu yr hyn a elwir yn Rhagymadrodd, bob amser yn dda iawn, ac ar adegau yn dra rhagorol. Byddai braidd yn wastad trwy y rhai hyny, yn enwedig mewn lleoedd dieithr, yn creu dysgwyliadau ag oeddent agos yn sicr o gael eu siomi. Pan yn dechreu ar ei Raniadau—y rhai oeddent bob amser yn dra chyffelyb-teimlid ar unwaith ei fod yn syrthio yn mhell islaw yr hyn yr oedd cymhwysder naturiol ynddo iddo. Yr ydym yn cofio enghraifft a esyd allan y tuedd y cyfeiriwn ato, yn yr hen frawd, yn well na dim darluniad o'r eiddom ni. Rywbryd, pan oeddem yn aros yn Mhwllheli, dygwyddem fod yn Nhremadoc am Sabbath, ac yntau gartref. "Yr ydwyf fi," meddai, "wedi bod yn trafferthu trwy yr wythnos gyda'r gair acw: Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â'th wynebpryd.' Sut y pregethech chwi ar y geiriau yna? Yr ydwyf i yn methu eu squario nhw yn iawn." Wedi peth ymddiddan, a chan wybod yn dda fod yr hen frawd yn gwbl onest a diddichell, gofynasom iddo, A oedd efe yn cymmeryd y geiriau yn cyfeirio at Grist? "O ydynt, yn ddiammeu " ebai yntau. "Wel," meddem ninau, "dyna i chwi ddefnydd eithaf rhagymadrodd—profi cymeriad Messïanaidd y Salm, ac mai yn Iesu Grist yn unig y mae ystyr y geiriau yn cael eu sylweddoli." "Wel, Sut y gwnaech chwi wedi hyny ?" "Wel, ni wn i ddim,—ond mi dybiwn," meddem, "y gallai dau ben felly gynnwys y gwirioneddau a ddysgir yn y geiriau: (1.) Fod Iesu Grist, fel Cyfryngwr, wedi ei fwriadu er daioni i ereill: gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol.' (2.) Fod y daioni hwnw sydd ynddo a thrwyddo i ereill yn ffynhonell yr hyfrydwch mwyaf iddo ef ei hunan: llawenychaist ef â llawenydd â'th wynebpryd."" "Wel, ïe," ebe yr hen frawd, "ond,