Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth a wnewch chwi o'r gwrthddrych, ef'?" Yr oedd braidd yn anhawdd i ni beidio a chwerthin: ond yr oedd ein profedigaeth yn fwy mewn Cyfarfod Misol, yn lled fuan ar ol hyny, lle yr oeddem ein dau i gyd-bregethu, ac yntau yn cymmeryd y geiriau uchod yn destyn, pan y clywem, fel y sylw cyntaf ganddo,—"Y gwrthddrych bendigedig a nodir yn y geiriau: 'ef.'"

Ond, yn y dull oedd ganddo, byddai weithiau yn cael oedfaon grymus iawn. Gwelsom yn fynych y gynnulleidfa yn un foddfa o ddagrau wrth ei wrandaw. Byddai y pryd hyny dan ddylanwadau nerthol ei hunan; ei deimladau yn dryllio, a'i lais yn tori i ryw oslef nodedig o berseiniol, ag yr oedd yn anmhosibl dàl tano. Clywsom lawer yn dywedyd y byddai, ar adegau felly, yn nodedig o debyg i Robert Roberts, Clynog. Yr oedd fflachiad ei lygaid, ysgogiadau ei law, angerddordeb ei deimlad, a chyfrodedd gwefreiddiol ei lais, yn ei wneyd, ar y cyfryw achlysuron, yn un dernyn byw o danbeidrwydd, ag yr oedd pawb yn teimlo oddiwrth ei wres, ac yn toddi dan ei ddylanwadau. Teimlai yn ddiolchgar iawn am y fath oedfa, ond clywsom ef yn dywedyd, ar ol un tro hynod felly, na byddai byth yn cywilyddio mwy ger bron ei Dad nefol na phan y byddai yn gosod rhyw anrhydedd felly arno.

Ond yn y cynnulliadau eglwysig, ac yn y Cynnadleddau yn y Cyfarfodydd Misol, yr oedd efe i'w weled yn ei ogoniant. Yr oedd ar ei ben ei hunan ryw fodd yn y rhai hyny yn nghanol ei holl frodyr. Yr oedd yn ŵr duwiol iawn, ac wedi darllen llawer ar ei Fibl ac amryw o'r hen awdwyr,—er na bu efe erioed yn efrydydd, fel Mr. Michael Roberts, eto nid yn hyny yr oedd ei hynodrwydd. Yr oedd rhyw fywiogrwydd yn ei ysbryd, a gwresawgrwydd yn ei deimladau, a rhyw sydynrwydd os nad nerth melltenaidd yn ei ddrychfeddyliau, a rhywbeth nad oes genym ni enw arno ac annysgrifiadwy yn ei lais, yn peri ei fod, yn y cyfarfodydd y cyfeiriasom atynt, yn nodedig o effeithiol. Yr oedd yn rhaid iddo, yn ei flynyddoedd diweddaf, gael dywedyd hyd yn nod ar draws un arall, pan y saethai y peth i'w feddwl—" onide," meddai," mi 'i collaf i o." Yr oedd ei sylwadau yn wastadol yn cyfodi oddiar gynhyrfiad y foment, ac yn dwyn arnynt ddelw hollol ei feddw! ef ei hun. Nid oeddent byth yn arwyddo dim dwfn neu athronyddol, ond yr oeddent yn berffaith naturiol, ac mor gyfaddas braidd bob amser, ag yr oedd yn bosibl iddynt fod, i'r wedd neillduol a gymmerid ganddo ef ar yr achos a fyddai ger ei fron.