Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd cymhwysder a deheurwydd arbenig ynddo at ddwyn yn mlaen amrywiol orchwylion y Cyfarfod Misol, a hyny, yn gysylltiedig a'r neillduolrwydd oedd yn ei ddawn mewn ymddyddan am bethau ysbrydol, a roddodd iddo ef y fath le a dylanwad yn y Cyfundeb. Nid ydoedd yn ddigon gochelgar bob amser rhag cymmeryd ei arwain gan ryw rai a mwy o ddichell ynddynt nag efe i wneyd ei feddwl i fynu ar ryw fater o ddadl neu ymryson cyn clywed y ddwy ochr. Ond yr oedd mor gywir ac uniawn, fel, os cai ar ol chwilio fod y rhai a dyhid ganddo ef yn ddifai yn benaf yn y camwedd, y newidiai ei ochr ar y cwestiwn hwnw yn y fan, ac y cyhoeddai ei farn yn ddibetrus a difloesgni. "Dyma hi," meddai unwaith, "yr wyf fi wedi cael fy siomi; y mae fy nghyfeillion wedi fy nhwyllo i yn gwbl: y rhai oeddwn i yn dybied oreu ydyw y mwyaf beius o ddigon; a'r rhai, yn wir, oeddwn i yn gredu oedd waethaf sydd wedi troi allan yn oreu o ddigon."

Ei ddiffyg mawr ef fel llywodraethwr oedd, nad oedd yn adnabod yn ddigon da derfynau ei awdurdod. Tynodd arno ei hunan trwy hyny, a chyfarfod âg ambell ysbryd mor anhyblyg ag ef ei hunan, gryn lawer o ofidiau. Yr oedd yn dra phoethwyllt ei dymher; ac os cai wrthwynebiad go gryf pan na byddai yn dysgwyl am dano, ac yn enwedig oddiwrth rai lled ieuanc, byddai braidd yn sicr o ymosod ar ei wrthwynebwyr yn lled ddiarbed; ac os na byddai y rhai hyny yn encilio, ond yn ymbarotoi hwythau i ryfel, ceid brwydr yn y fan. Llawer gwaith y gwelsom droion o'r fath. Ond, wedi brwydrau poethion felly, mynych y sylwasom fel y byddai cyfarfyddiad â'r efengyl yn tawelu ac yn oeri ac yn ireiddio ei ysbryd, ac yn ei adfer i'w dynerwch ei hun, hyd yn nod pan y byddai yr efengyl hono yn cael ei dwyn ger ei fron gan y rhai y byddai wedi bod yn dadleu â hwynt. Nis gallwn byth anghofio un Cyfarfod Misol yn y Bont Fechan, yn Llanystumdwy. Yn y Cyfarfod am wyth y boreu yr oedd Mr. Griffith Hughes (fe faddeua yr hen gyfaill i ni am y cyfeiriad ato) ac yntau wedi bod yn dadleu â'u gilydd ar ryw achos gyda brwdaniaeth annghyffredin, yn terfynu ar os nad wedi myned trosodd i dir gwaharddedig; ac amryw eiriau tra phigog, os nad anngharedig, wedi eu dywedyd ar y naill ochr a'r llall, nes yr oedd amryw o honom yn ofni fod teimladau Cristionogol wedi eu harcholli i'r fath raddau fel na wellheid hwynt yn fuan. Yr ydym yn cofio yr hen flaenor, Isaac Morris, Pentyrch, gyda bod y Society drosodd, yn dywedyd wrthym, "Wel, dyna'r waethaf