Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r saith." Yr oedd Mr. Griffith Hughes a ninau wedi ein henwi i bregethu am ddeg. Wedi i ryw frawd ddechreu yr oedfa, a hyny yn dra brysiog, dechreuodd Mr. Griffith Hughes bregethu. Yr oedd yr hen frawd o Dremadoc yn eistedd o dan y pulpud yn nghongl y sêdd, gyferbyn a llygad y pregethwr, ac ar y cyntaf braidd yn anfoddog yr olwg arno, ac fel pe buasai ar ymgastellu mewn rhagfarn a drwgdeimlad, rhag derbyn unrhyw argraff oddiwrth y bregeth na thrwy y pregethwr. Ond yr oedd yno rywbeth yn y bregeth, y boreu hwnw, nas gallasai ei galon ef ddal yn hir yn ei erbyn. Yn mhen ychydig amser gwelid ei wefusau yn cyffroi, a'i lygaid yn cau ac yn agor, ac "Amen," "Amen," yn llithro drostynt, os nad yn ddiarwybod iddo ef ei hun, eto fel pe na buasai arno eisiau i neb arall wybod dim yn eu cylch. Yn raddol, fel yr oedd y pregethwr yn myned rhagddo, yr oedd y teimlad yn cynnyddu yn y gynnulleidfa, a'r hen frawd yn wylo fel plentyn, ac erbyn hyn wedi codi ar ei draed, ac yn troi weithiau at y pregethwr ac weithiau at y bobl, yn llawn bywyd trwyddo, ac yn ymddangos fel wrth fodd ei galon yn mwynhau yr efengyl, a'r oruwchafiaeth a gawsai y pregethwr arno drwyddi. Yr oeddem ni yn dygwydd bod yn eistedd yn agosaf ato ar giniaw, y diwrnod hwnw, yn nhŷ y diweddar Mr. John Jones, y Glyn:—"Wel, yr hen frawd," meddem wrtho, "ni ddarfu i mi erioed feddwl yn well am eich crefydd chwi na heddyw." "Wel, pa'm? beth welsoch chwi heddyw?" ebe yntau. "Beth? ond eich gweled," meddem ninau, "yn cymmeryd eich trin mor dda gan Griffith Hughes yn y bregeth yna, ar ol y ffrae fawr oedd wedi bod rhyngoch â'ch gilydd ychydig fynydau cyn hyny." "Wel, ïe," ebe yntau, "ond nid oes dim diolch i mi: on'd ydy' o wedi cael y llaw ucha' arna' i yn y pulpud yna er's blynyddoedd."

Yn groes iawn i'w feddwl ef, am fod hyny yn gystal a rhwygo ei frenhiniaeth, ryw bymtheg neu ugain mlynedd cyn ei farwolaeth, fe ranwyd y Sir yn ddau Gyfarfod Misol. Ar y cyntaf, ac am beth amser wedi hyny, yr oedd math o undeb yn parhau rhyngddynt, trwy eu bod yn cyd-gyfarfod bob tri mis, ar ol y rhaniad; ond, yn raddol, fe dorwyd y cysylltiad yn gwbl. Anesmwythder cyffredinol yn Arfon i'r hyn a dybid gan y cyfeillion yno yn ormod tuedd yn yr hen frawd at dra-awdurdodi oedd y prif achos i fynu hyny ar y pryd; er fod lliosogiad yr addoldai, a chynnydd y gwaith yn y Sir, yn peri angen gwirioneddol am y fath gyfnewidiad. Yr oedd un peth, pa fodd bynnag,