Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cymmeryd lle ychydig cyn hyny ag oedd wedi parotoi cryn lawer ar ei feddwl ef i ddygymmod â'r rhaniad, ragor na phe buasai yn cael ei wneuthur rai blynyddoedd yn gynt. Yr oedd y cynnulliad am wyth, foreu yr ail ddydd yn y Cyfarfod Misol, wedi arfer bod bob amser yn gyfarfod yn unig i'r Pregethwyr a'r Blaenoriaid, a rhyw bwnc o athrawiaeth yn gyffredin yn cael ymdrin ag ef ynddo. Yr oedd rhybudd yn cael ei roddi, fis yn mlaen, beth fyddai dan sylw yn y cyfarfod canlynol, er mwyn mantais i'r holl aelodau ymbarotoi ar ei gyfer. Ond efe braidd bob amser fyddai yn dewis y pwnc, ac yn rhoddi y rhybudd yn ei gylch; ac yr oedd, o'r diwedd, wedi myned i gymmeryd ei hunan y rhan fwyaf o lawer o'r amser i draethu arno. Dygwyddai hyny yn fynych, hyd yn nod pan fyddai y pregethwyr yn lled gyffredinol yn bresennol. Yr ydym yn cofio, unwaith, un blaenor, yn niwedd cyfarfod o'r fath, yn dywedyd wrtho y buasai yn llawer gwell iddo ei gyhoeddi ei hunan i bregethu ar y pwnc, yn y cynnulliad am wyth yn y Cyfarfod Misol canlynol, na thaflu y cyfryw ddiystyrwch ar holl bregethwyr y Sir. Pa fodd bynnag, fe gododd teimlad yn mhlith y swyddogion, ac yn yr eglwysi, y dylasai y cynnulliad hwnw fod yn gyfarfod cyffredinol i'r holl aelodau eglwysig, yn y lle y cynnelid y Cyfarfod Misol, yn gystal ag i gynnifer o'r eglwysi cymmydogaethol, ag a ddymunent ac a allent fod yn bresennol. Daethpwyd, wedi hir ddadleu, i'r penderfyniad iddo fod felly, ac i ryw beth o duedd ymarferol fod yn gyffredin dan sylw ynddo. Penderfynwyd gydâ hyny mai y swyddogion eglwysig, yn y lle y cynnelid y Cyfarfod, oeddent i ddewis y mater, yn ol eu hadnabyddiaeth o amgylchiadau yr ardal; a'u bod i roddi rhybudd am hyny y prydnawn cyntaf, ac nid i neb cyn hyny. Yr oedd hyn, ar unwaith, agos cystal a chau genau yr hen frawd yn y Cyfarfod hwnw: oblegyd nid oedd ganddo erioed ond ychydig amcan at ddim ymarferol, ac yr oedd, yn enwedig, yn gwbl analluog i wneyd dim tebyg i Araeth ar bwnc felly, heb gyfleusdra i ymbarotoi. Yr oedd gwedd ymddiddanol y cyfarfod hefyd erbyn hyn wedi colli yn hollol; ac yntau, yn y canlyniad, wedi ei daflu ynddo oddiar ei fawr nerth, ac yn gorfod ymddangos braidd yn wanach nag yr un o'i frodyr. Yr oedd hyn yn gwneyd rhaniad y Sir, ar y pryd, ychydig yn llai profedigaeth iddo, gan y gobeithiai y byddai yn alluog i gadw at yr hen drefn yn y rhan hòno ag yr oedd efe yn cartrefu ynddi.

Ond bu raid iddo, yn ei Gyfarfod Misol ei hunan-Lleyn ac Eifion-