Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd-fyned drachefn trwy yr un ymdrech, a dioddef yn y diwedd cael ei orchfygu. Yr oedd yr un awydd am yr hyn a dybid yn ddiwygiad wedi cyrhaedd yno, a'r rhai ieuengaf yn mhlith y Pregethwyr a'r Blaenoriaid braidd yn gyffredinol o'i blaid. Wedi hir ymdriniaeth a llawer o ddadleu, cytunwyd ar gynllun tebyg i'r un oedd yn awr yn gweithio yn gyson yn Arfon. Ac nid yn unig hyny-ond yr oedd swyddogion y lle y cynnelid y Cyfarfod Misol i gynnyg Cadeirydd i'r Cyfarfod hwnw. Ymdrech galed iawn a gafwyd i gael y diweddaf. Wedi cael y cynllun hwn, bu yr hen frawd yn hir yn dra anfoddlawn o'i blegyd, a llwyddai yn fynych, ryw fodd, i beri i ambell gymmydogaeth ymddangos yn hollol wrthwynebol iddo, fel ag y byddai y cyfarfod am wyth yn aml yn gyfarfod yn unig i'r swyddogion. Ond, yn raddol, wrth ei weled yn gweithio ei ffordd, ac yn ateb dibenion daionus i'r achos mawr, ac, yn enwedig, wrth ganfod arwyddion boddlonol i'w feddwl ef, mewn aml gyfarfod, fod rhyw amddiffyn dwyfol arno, rhoddes heibio bob gwrthwynebiad, cymerai yr arweiniad yn ei ôl mor siriol ac mor fywiog ag y gwelsid ef erioed, a daeth yn mhen ychydig amser i arddangos gallu newydd—i siarad mewn cymhariaeth yn ddifyfyr, ac ar bynciau o nodwedd hollol ymarferol—gallu na thybid gan neb ei fod yn eiddo iddo, ac nad oedd efe ei hunan, yn enwedig, erioed wedi dychymygu fod ganddo ddim o hono. Yr oedd yn myned yn anwylach, anwylach, gan ei holl frodyr y naill fis ar ol y llall, a'i bresennoldeb yn eu plith yn cael ei deimlo fel rhwymyn undeb rhyngddynt oll a'u gilydd. Bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith " am gadwedigaeth trwy Iesu Grist, Ionawr 30, 1857, yn 81 mlwydd oed. Ei eiriau diweddaf, bum' munud cyn ymadael, oeddent, "Mae pob peth yn dda." Yr oedd wedi bod yn aelod eglwysig er mis Mai, 1795; wedi dechreu pregethu er mis Mawrth, 1803; ac wedi ei neillduo i'r holl waith er mis Mehefin, 1814. Yn ei farwolaeth ef fe gollwyd dernyn dysglaer a didwyll o hen Fethodistiaeth Cymru. Pared yr Arglwydd na byddo rhai o'r un ysbryd cysegredig i grefydd ac i'r Cyfundeb, ag oedd yn ei nodweddu ef, byth yn darfod o'n plith.

Un arall, yn llanw lle mawr yn y Cyfarfod Misol, ac yn absennoldeb y rhai a nodwyd eisoes, bob amser yn cymmeryd y flaenoriaeth ynddo, ydoedd Mr. James Hughes. Yr oedd efe yn nodedig o barchus yn mhlith ei frodyr, a thrwy y wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn ŵr o dymherau naturiol tra hynaws; cadarn o gorffolaeth; rhywbeth